Â鶹ԼÅÄ

Kirsty Williams: Cwricwlwm newydd 'yn dod yn ei flaen'

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams

Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi dweud ei bod hi'n hapus gyda sut mae datblygiad y cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru yn dod yn ei flaen, er gwaethaf pryderon gan bwyllgor Cynulliad.

Fis diwethaf fe rybuddiodd ACau fod angen cymryd "camau brys" er mwyn sicrhau bod athrawon yn barod ar gyfer y newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno yn 2022.

Ym mis Medi cyhoeddodd Kirsty Williams y byddai'r newidiadau yn cael eu cyflwyno .

Fe fydd y cwricwlwm newydd yn seiliedig ar chwe maes eang o ddysgu, gyda phwyslais ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Cyflwyno'n raddol

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg ei bod wedi "gwrando'n astud" ar bryderon y pwyllgor a'i bod yn deall pam fod angen rhoi blaenoriaeth i sicrhau fod athrawon yn barod ar gyfer y newidiadau.

Ychwanegodd ei bod "yn sicr" yn hapus gyda sut roedd datblygu'r cwricwlwm yn dod yn ei flaen a'i bod eisoes wedi dangos ei pharodrwydd i wrando wrth oedi cyn ei gyflwyno.

"Roeddwn i'n cydnabod beth roedd rhai yn y proffesiwn yn ei ddweud - fod angen amser ychwanegol i sicrhau, pan fydd y cwricwlwm yn barod i fynd, fod ein hathrawon hefyd yn barod gyda'r holl wybodaeth, sgiliau a hyfforddiant i sicrhau ei fod yn llwyddiant," meddai.

"Dyna pam wnaethon ni benderfynu cyflwyno'r cwricwlwm yn raddol yn hytrach nag i gyd ar unwaith, ac oedi fel bod gan athrawon yr amser ychwanegol hwnnw."

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 7 yn 2022, cyn cael ei gyflwyno i flynyddoedd hÅ·n yn ddiweddarach.

"Rydyn ni'n anfon llawer o ddeunydd i ysgolion ac athrawon unigol yn eu hysbysu o'r newidiadau a rhoi gwybod iddyn nhw sut fydd y newidiadau hynny'n datblygu.

"Ond y peth pwysig yw mai'r proffesiwn sydd yn datblygu'r cwricwlwm yna."