Swogs adnabyddus Llangrannog yn cofio'r dyddiau da

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi gwaith datblygu gwerth £5.5m i wersylloedd Llangrannog a Glan-llyn. Mae disgwyl y bydd nifer yr ymwelwyr yn cynyddu o ganlyniad i'r datblygiadau newydd.

Mae gan nifer ohonom atgofion melys iawn o ymweld â Llangrannog neu Glan-llyn pan oedden ni'n iau, ac mae pawb yn dueddol o gofio pwy oedd y 'swogs' ar eu hymweliad â'r gwersylloedd ieuenctid.

Rhain oedd y swyddogion ifanc oedd yn gweithio yn y gwersylloedd yn gofalu am y plant ac arwain gweithgareddau.

Yma, mae'r actor Ieuan Rhys, y gantores a'r cyflwynydd Sioned Mair a'r darlledwr Angharad Mair yn hel atgofion am eu dyddiau da yn 'swogio'...

Disgrifiad o'r llun, Y cyn 'swogs', Ieuan Rhys, Angharad Mair a Sioned Mair

Ieuan Rhys - "Gwersyll Llangrannog oedd y lle i fi."

Dechreues i fynd yno ar wyliau fel plentyn pan o'n i'n 10 oed. Pan o'n i yn fy mhumed flwyddyn yn Ysgol Rhydfelen, ges i'r cyfle i fynd yna fel swog dros yr haf. O'n i braidd yn ifanc, ond fe wnaeth John Jaffeth, pennaeth Llangrannog ar y pryd, adael i griw ohonon ni fynd. R'on i'n dal i swogo pan o'n i'n actio ar Pobol y Cwm, hyd nes tua 1988.

Ffynhonnell y llun, Ieuan Rhys

Disgrifiad o'r llun, Ieuan Rhys (cefn yn y coch) a Dylan Davies (blaen ar y chwith) gyda chriw o Gaernarfon yn Llangrannog gan gynnwys Bethan Wyn Thompson sydd wedi cysylltu i ddweud mai hi sydd yn y crys chwys glas gyda bathodyn yn yr ail res. Ydych chi'n 'nabod rhywun arall?

Gwersyll Llangrannog oedd y lle i fi. Roedd e'n lot o hwyl, yn enwedig pan o'n i'n stiwdant. Am fis, o'dd dim rhaid poeni am arian, o'n i'n gweithio fel swog ac yn cael fy mwyd a diod yn y gwersyll, doedd dim cyfle i wario arian, ac i stiwdant oedd hwnna'n grêt. Fe wnes i gymaint o ffrindiau yn y cyfnod hynny a maen nhw'n dal 'da fi hyd heddi.

Trwy fynd i Langrannog ffeindies i fy Nghymreictod eto. Roedd hi'n norm yn yr ysgol i rebelio ac i siarad Saesneg gyda phawb, ond fe ddigwyddodd rhywbeth i fi yn Llangrannog a newidiodd fy agwedd yn llwyr.

Roedd y plant yn dod i'r gwersyll yn yr haf am wyliau a roedden ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y mwynhad mwya' posib. Prif swyddogaeth y swog oedd i edrych ar ôl y plant, gofalu amdanyn nhw, yn y pwll nofio, ar y ceffylau, mynd mas ar y beics a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n joio.

I ni roedd yn bwysig bod y rhan fwya' o'r plant yn llefen y glaw ar y bore dydd Gwener wrth fynd adre, roedd hynny'n arwydd eu bod nhw wedi joio ac o't ti'n gwybod, fel swog, dy fod ti wedi llwyddo!

Ffynhonnell y llun, Ieuan Rhys

Disgrifiad o'r llun, Rhai o swogs Llangrannog gyda Ieuan Rhys

Un stori ddigri dwi'n cofio - o'n i ar ddyletswydd nos, ac o'n i'n clywed sŵn yn dod o un o gabanau'r bois. Es i mewn a gweld potel o seidr. Sai'n gwybod shwt o'n nhw di cael y botel, ond feddylies i bod rhaid mynd â nhw at y pennaeth. A dwi'n cofio'r boi bach 'ma yn dweud, gyda acen Caernarfon cryf: "Mae'n iawn, ia, mae'n deud serve child..." 'Serve chilled' oedd ar y botel!

Ffynhonnell y llun, Ieuan Rhys

Disgrifiad o'r llun, Pa wynebau adnabyddus allwch chi eu gweld yn y llun yma? Ar y dde mae John Jaffeth, pennaeth Llangrannog yn y cyfnod

Angharad Mair - "...roedd e jyst fel Love Island heb y bicinis!"

Dwi'n cofio'r profiad o fod oddi cartre' am y tro cynta' heb y teulu. R'on i'n mynd yn ystod y gwyliau haf gyda ffrindiau ysgol, pan o'n i tua 11 oed.

Cerdded dros y top heibio Ynys Lochdyn a lawr i'r traeth. Roedd y swogs yn ein arwain ni mewn un rhes, a'r plant yn rhedeg mewn i'r dŵr. Ar y pryd roedd bach llai o bwyslais ar iechyd a diogelwch na sydd 'na heddi!

Pan o'n i'n hŷn fe es i nôl i Langrannog fel swog ac fe gwrddes i â lot o bobl bryd hynny ac y'n ni'n ffrindiau hyd heddi.

Yn y cyfnod hynny roedden ni gyd yn cysgu mewn pebyll, mae'n brofiad hollol wahanol erbyn heddi wrth gwrs ond yr un cyffro ydy e i'r plant.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Mae gen i atgofion melys iawn o fynd i Glan-llyn am dair blynedd hefyd, o pan o'n i'n 13 i 16 oed. Fanna ges i fy nghanlyniadau Lefel O, roedd hi mor wych bod yno gyda ffrindiau. Un alwad ffôn i glywed y canlyniadau a wedyn anghofio amdanyn nhw a mwynhau!

Wi'n cofio wastad pawb yn llefen ar y bore ola', wedi 'neud cariad newydd a gorfod ffarwelio. Cofio'r disgo ar y noson ola. Roedd e jyst fel Love Island heb y bicinis!

Ffynhonnell y llun, URDD GOBAITH CYMRU

Disgrifiad o'r llun, Angharad Mair yn y 1970au yn Glan-llyn

Sioned Mair - "Mae gen i atgofion da o amser te, cael bara a jam a chreision."

Yn Llangrannog, pan o'n i tua 11 oed, oedd y tro cynta' erioed i mi gysgu mewn pabell ac fe wnes i gwrdd â llawer o ffrindiau newydd. Fe wnaeth Siwan Jones [awdur 35 Diwrnod, Alys ac ati] a fi gwrdd am y tro cynta' ar y swings yn Llangrannog, a ry'n ni dal yn ffrindiau heddiw. Ro'n i'n mynd â'r gitâr gyda fi ac yn canu a chael hwyl.

Dwi hyd yn oed yn cofio rhai o'r gwisgoedd es i gyda fi i Langrannog, yn enwedig un ffrog seicadelig. Ar ddiwedd y 1960au oedd hyn.

Fues i'n swog yn Llangrannog pan o'n i yn brifysgol ym Mangor. Roedd fy ngŵr i, Russell Isaac, yn swog yr un adeg. Roedd yn gyfnod arbennig iawn a dwi wedi cael pobl yn dod ata i dros y blynyddoedd yn dweud "dwi'n eich cofio chi o fod yn swog arna i yn Llangrannog."

Ar ôl i ni ofalu am y plant drwy'r dydd roedd y swogs yn aros i fyny'n hwyr a chael hwyl, yn yr un cyfnod roedd Emyr Wyn, Cleif Harpwood ac eraill yn swogs.

Dwi'n cofio cerdded i lawr i lan y môr, y swogs i gyd yn creu cylch yn y môr a'r plant yn rhedeg i mewn. Roedden ni'n gweithio'n galed, roedd na lot o ofal ar blant, ond roedd yn lot fawr o hwyl hefyd.

Mae gen i atgofion da o amser te, cael bara a jam a chreision. Roedd y bwyd yn blasu mor arbennig o dda, roedd yn waith corfforol a phrysur a r'on ni'n awchus am fwyd trwy'r amser.

Roedd 'na lot o ryddid bryd hynny, cyn rheolau iechyd a diogelwch fel sydd heddiw, a lot o hwyl i gael efo'r plant. Dwi'n cofio bod allan yn yr awyr agored ran fwyaf, ac ar nosweithiau clir, tywyll, gorwedd yn gwylio'r sêr.

Hefyd o ddiddordeb: