Â鶹ԼÅÄ

Gareth Bale i fethu gêm Cymru yn erbyn Sbaen nos Iau

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans agency

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn chwarae unrhyw ran yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen nos Iau.

Dywedodd Ryan Giggs fod Bale, 29, wedi bod yn dioddef o anaf ers rai wythnosau ond ei fod yn "obeithiol" y bydd yr ymosodwr ar gael i herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth.

Cafodd Bale ei eilyddio gyda 10 munud yn weddill wrth i Real Madrid gael eu trechu 1-0 gan Alaves nos Sadwrn.

Ychwanegodd Giggs: "Mae Gareth yn dioddef o rywfaint o flinder i'r cyhyrau ar hyn o bryd, a ni fydd yn chwarae yn erbyn Sbaen.

"Rydyn ni'n monitro'r sefyllfa yn ddyddiol, ond fedrwn ni ddim mentro. Ar hyn o bryd fyddwn i'n dweud fod y tebygrwydd ohono'n chwarae nos Fawrth yn 50-50."

Bydd Cymru yn herio Sbaen yn Stadiwm Principality nos Iau, gyda'r gic gyntaf am 19:45.