Â鶹ԼÅÄ

Pryder am ffitrwydd Gareth Bale cyn gemau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yw prif sgoriwr tîm cenedlaethol y dynion erioed, gyda 30 gôl

Bydd Cymru'n asesu ffitrwydd Gareth Bale ar gyfer y gemau yn erbyn Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon wedi iddo gael ei anafu tra'n chwarae dros Real Madrid.

Cafodd Bale, 29, ei eilyddio gyda 10 munud yn weddill wrth i Real gael eu trechu 1-0 yn Alaves nos Sadwrn.

Fe wnaeth ei reolwr, Julen Lopetegui gadarnhau mai anaf oedd y rheswm y bu'n rhaid i'r Cymro adael y maes.

Dyma oedd gêm gyntaf Bale ers dychwelyd o anaf arall, wnaeth ei gadw allan o daith Real i herio CSKA yn Rwsia yn ystod yr wythnos.

Er hynny, fe wnaeth yr ymosodwr gwrdd â gweddill carfan Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Bydd Cymru'n croesawu Sbaen i Stadiwm Principality ddydd Iau, cyn teithio i Ddulyn i herio'r Weriniaeth yn Nulyn nos Fawrth.

Pe bai'n holliach ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd byddai Bale yn debygol o wynebu nifer o'i gyd-chwaraewyr â Real Madrid.

Ond mae'n bosib nawr y bydd yn rhaid iddo golli'r gêm gyfeillgar er mwyn bod yn ffit ar gyfer y gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn.