Â鶹ԼÅÄ

Giggs yn cyhoeddi carfan Cymru i gemau Sbaen ac Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Quality Sport Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Bale ei eilyddio yn y gêm yn erbyn Atletico Madrid dros y penwythnos oherwydd anaf

Mae Ryan Giggs wedi enwi carfan o 25 i wynebu Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon.

Dydy Joe Ledley na Tom Lockyer ddim yn y garfan oherwydd anafiadau.

Ond mae ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale, wedi'i gynnwys er pryderon am ei ffitrwydd.

Bydd Cymru yn herio Sbaen mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality ar 11 Hydref, cyn teithio i Ddulyn i wynebu Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae Aaron Ramsey wedi'i gynnwys er nad ydy wedi teithio i Azerbaijan gyda'i glwb Arsenal heno, gan fod ei wraig yn disgwyl efeilliaid.

Y golwr Adam Davies ydy'r unig un o'r 25 sydd heb gap dros ei wlad, tra y gall yr ymosodwr George Thomas wneud ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf.

Er nad ydy Andy King wedi'i enwi yng ngharfan CaerlÅ·r yn yr Uwch Gynghrair, mae'r chwaraewr canol cae yn cadw ei le yn y garfan.

Mae Jazz Richards hefyd wedi'i gynnwys er nad ydy'r cefnwr yn cael ei ffafrio gan reolwr Caerdydd, Neil Warnock.

Y garfan yn llawn:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (CaerlÅ·r), Adam Davies (Barnsley).

Ashley Williams (Stoke City, ar fenthyg o Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Connor Roberts (Abertawe), Christopher Mepham (Brentford), Jazz Richards (Caerdydd), Ethan Ampadu (Chelsea), Paul Dummett (Newcastle United), Declan John (Abertawe).

Joe Allen (Stoke City), Aaron Ramsey (Arsenal), Andy King (CaerlÅ·r), David Brooks (Bournemouth), Matthew Smith (FC Twente, ar fenthyg o Manchester City).

Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Sheffield United, ar fenthyg o Lerpwl), Harry Wilson (Derby County), Tom Lawrence (Derby County), Sam Vokes (Burnley), George Thomas (Scunthorpe United, ar fenthyg o GaerlÅ·r), Tyler Roberts (Leeds United).