Â鶹ԼÅÄ

Diddymu tollau dros bontydd Hafren ar 17 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tollau dros bontydd Hafren yn dod i ben ar 17 Rhagfyr, mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhoeddi.

Fe wnaeth Alun Cairns y cyhoeddiad wrth siarad yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham ddydd Mawrth.

Mae teithwyr wedi gorfod talu i groesi ers i'r bont gyntaf gael ei chodi yn 1966, ac mae gyrwyr ar hyn o bryd yn gorfod talu £5.60 wrth deithio i Gymru.

Mewn cyfweliad ar y Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru dywedodd Mr Cairns ei fod yn "gyffrous" am y datblygiad, gan fod "pobl 'di bod yn galw am hyn ers blynyddoedd".

"Mae'n anodd credu bod 50 o flynyddoedd wedi pasio ers bod pobl wedi bod yn talu i ddod mewn i Gymru, mae hynny yn gwbl anghywir a ma' hyn yn creu cyfleoedd newydd i bobl yn ne Cymru ac i fusnesau'r ddwy ochr i'r afon."

Wedi i'r pontydd ddychwelyd yn eiddo cyhoeddus ar 1 Ionawr 2018, galwodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am ddileu'r tollau.

Ond, dadleuodd yr Adran Drafnidiaeth bod y ffioedd fyddai'n cael eu casglu'n 2018 yn cyfrannu tuag at ddiddymu'r tollau dros gyfnod o amser ac at waith cynnal a chadw, sy'n costio £15m.

Bydd diddymu'r tollau yn rhoi hwb o £100m i'r economi, yn ôl amcangyfrifon gan Lywodraeth Cymru.

Mae 25 miliwn o deithiau dros y bont yn flynyddol a bydd unigolion sy'n teithio drosti'n ddyddiol yn gallu arbed £1,400 y flwyddyn.

Serch hynny, mae rhai eisoes yn gofidio bydd diddymu'r tollau yn achosi tagfeydd.