Â鶹ԼÅÄ

Alun Cairns: 'Angen cydweithio tu hwnt i bont Hafren'

  • Cyhoeddwyd
Severn CrossingFfynhonnell y llun, markc212/Getty Images

Gall "safonau byw a chyfleoedd gwaith yng Nghymru wella drwy feithrin gwell perthynas gydag economi Bryste", yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Yn gam cyntaf, mae cynhadledd Twf Hafren wedi'i threfnu ar argymhelliad yr ysgrifennydd, Alun Cairns, ac yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd.

Mae disgwyl i 350 o'r rhai fydd yn bresennol drafod datblygu cysylltiadau economaidd rhwng de-ddwyrain Cymru ag ardaloedd Bryste a Chaerfaddon.

Dywedodd Mr Cairns: "Mae'n hen bryd i ni addasu gwleidyddiaeth i fyd busnes yn hytrach na addasu busnes i ateb gofynion gwleidyddiaeth."

Daw sylwadau Mr Cairns wrth i brisiau croesi pontydd Hafren .

Mae'r ddwy bont sy'n cysylltu de Cymru a de-orllewin Lloegr bellach wedi cael eu trosglwyddo i ddwylo cyhoeddus, a bydd y tollau'n cael eu diddymu'n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

'Rhwystredigaeth economaidd'

Yn ôl Mr Cairns mae 50 mlynedd o groesi pontydd Hafren wedi atal busnesau a chymunedau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd nad y tollau'n unig sy'n gyfrifol am hynny, ond bod y pontydd yn symbol o rwystredigaeth economaidd.

Dywedodd Mr Cairns hefyd bod y pontydd wedi atal ffyniant economaidd yng Nghymru, a heb y tollau y byddai pobl a busnesau ar ddwy ochr i'r ffin wedi integreiddio'n well.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai busnesau de Cymru elwa o ffyniant economi lewyrchus Bryste yn ôl Alun Cairns

Wrth gael ei holi a yw ei sylwadau yn tanseilio datganoli, dywedodd Mr Cairns: "Am yr 20 mlynedd ddiwethaf ry'n wedi bod yn siarad am gydweithio ond dyw'r cydweithio yna ddim yn stopio ar y ffin.

"Mae'n amser i ni sicrhau bod gwleidyddiaeth yn ateb gofynion y byd busnes.

"Rhaid gweithredu'r hyn sydd ei angen ar gyfer busnesau ac economi y ddwy ochr i'r ffin a dwi'n credu y gallai Cymru elwa yn sylweddol."

Ychwanegodd bod economi de-orllewin Lloegr yn "ffynnu'n well na Chymru a fy amcan i yw gwneud popeth posib er mwyn denu buddsoddiad".

"Byddai gweld dinasoedd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Bryste a Chaerfaddon yn cydweithio yn siwr o apelio at fuddsoddwr rhyngwladol."

Ymhlith y rhai fydd yn bresennol yn y gynhadledd ddydd Llun mae arbenigwyr llywodraeth leol, addysg a chynrychiolwyr o'r sector gyhoeddus a phreifat o bob ochr i bont Hafren.