Llywodraeth angen 'gosod safonau' ar ddefnydd ceir trydan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen ar neu wedi prydlesu unrhyw geir trydan neu hybrid yn y pum mlynedd ddiwethaf, er gwaethaf polisïau sy'n annog eu defnydd.

Mae'r llywodraeth wedi buddsoddi £2m er mwyn datblygu pwyntiau gwefru mewn ymgais i leihau allyriadau erbyn 2020.

Er hyn, roedd pob un o'r 72 cerbyd yn eiddo'r llywodraeth y llynedd yn rhedeg ar ddisel.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi lleihau'r allyriadau cerbyd cyfartalog o 22% yn y pum mlynedd diwethaf, a'u bod yn bwriadu ychwanegu cerbyd trydan at eu fflyd.

Yn ôl Melanie Shufflebotham, cyd-sylfaenydd gwefan pwyntiau gwefru ceir trydan, Zap Map, mae gan unrhyw lywodraeth ddyletswydd i "osod safonau".

Yn 2015, fe wnaeth adroddiad gan arbenigwyr - gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru - awgrymu bod yr awdurdod yn cyfnewid unrhyw gerbydau oedd angen eu newid am gerbydau carbon isel, cyn belled a bod hynny'n ddiogel.

Mae rhai wedi beirniadu'r llywodraeth am ddiffyg cynnydd o ran datblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru, gydag awgrymiadau bod Cymru "ar ei hôl hi".

Dywedodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ym mis Mai bod Cymru yn disgwyl methu cyrraedd eu targed ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2020.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae fflyd y llywodraeth yn cynnwys 72 cerbyd - pob un o'r rhain yn rhedeg ar ddisel

Mae ffigyrau sydd wedi dod i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y Â鶹ԼÅÄ yn dangos fod fflyd y llywodraeth yn cynnwys 21 cerbyd môr a physgodfeydd - y mwyafrif o'r rhain yn rhai 4x4 - yn ogystal â 15 4x4 gyda'r gallu i glirio priffyrdd.

Hefyd yn rhan o'r fflyd mae 22 cerbyd cynnal a chadw, 12 car ar gyfer gweinidogion a thri char ar gyfer defnydd cyffredinol - oll yn rhedeg ar ddisel.

Ers 2014/15 mae maint y fflyd wedi codi o 59 cerbyd i 72.

Yn 2017 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd gwerthiant ceir disel a phetrol newydd yn cael ei wahardd erbyn 2040.

'Ofn' cyfyngiadau

Yn ôl Rhun ap Iorwerth AC, sydd wedi galw am gynnydd mewn pwyntiau gwefru yn y gorffennol, dyma'r amser i newid ymddygiad pobl.

"Dyma'r amser i Lywodraeth Cymru ddangos mai dyma yw'r dyfodol ac ein bod ni am geisio aros ar flaen y gad. Yn syml, dydyn nhw ddim yn gwneud hynny," meddai.

Ychwanegodd fod rhai pobl "ofn" defnyddio ceir trydan oherwydd eu cyfyngiadau, ond bod gwneuthurwyr wedi delio gyda nifer o'r problemau erbyn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i adolygu technoleg newydd a gwahanol, a'u profi i fesur eu heffaith amgylcheddol a'u gwerth am arian i drethdalwyr.

"Dyma pam y byddwn ni yn ychwanegu car trydan at ein fflyd," meddai.