Â鶹ԼÅÄ

'Siom' wrth i Lywodraeth Cymru fethu targedau amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd
tyrbinauFfynhonnell y llun, PA

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn methu ei thargedau ei hun am leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol cyntaf ar newid hinsawdd.

Mae'n ystyried y gwelliannau sydd wedi digwydd ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Strategaeth newid Hinsawdd yn 2010 oedd yn gosod targedau yn y maes.

Yn eu plith roedd lleihau lefelau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o 40% o lefel 1990 erbyn 2020, ynghyd â lleihau'r lefelau o 3% bob blwyddyn o 2011 ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod" fod angen gwneud mwy i leihau cyfanswm yr allyriadau.

'Siomedig'

Mae'r ystadegau diweddaraf ddaeth i law'r pwyllgor yn dangos mai dim ond gostyngiad o 19% a welwyd yng Nghymru ers 1990 o'i gymharu â gostyngiad ar draws y DU o 27%.

Rhoddwyd tri rheswm i'r pwyllgor am y methiant, sef Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd, gwneuthuriad economaidd Cymru a phatrymau tywydd.

Ond mae'r pwyllgor o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ystyried materion sy'n gallu amrywio fel hyn cyn llunio'i thargedau a pholisïau.

Mae diwydiant a'r sector ynni, er enghraifft, yn gyfrifol am ganran uwch o allyriadau na mewn rhannau eraill o'r DU.

Yn y sector ynni roedd allyriadau wedi cynyddu 17% ers 1990, gyda phwerdy glo Aberddawan yn gyfrifol am 14% o holl allyriadau nwyon tÅ· gwydr Cymru.

Wrth ystyried Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru osod targedau newydd, is, yn y tymor byr.

Disgrifiad o’r llun,

Mike Hedges AC yw cadeirydd y pwyllgor

Dywedodd Mike Hedges AC, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: "Roedd targedau Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tÅ· gwydr yng Nghymru yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy.

"Mae'r ffaith y bydd y llywodraeth yn methu â chyrraedd y targedau hyn o dipyn yn siomedig iawn, ac nid yw'r pwyllgor wedi ei argyhoeddi gan rywfaint o'r rhesymeg sy'n sail i'r methiant.

"Credwn fod angen dull gweithredu llawer mwy cydlynol ar draws adrannau'r llywodraeth os yw Cymru i ddod yn genedl fwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.

"Yn y tymor byr, rydym yn derbyn barn Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei thargedau a'u gostwng.

"Rydym wedi gwneud llawer o argymhellion yn ein hadroddiad ynglÅ·n ag amaethyddiaeth, coedwigaeth, tai a thrafnidiaeth, y credwn a fydd yn sicrhau y bydd gweinidogion yn cyflawni eu hymrwymiadau a'u rhwymedigaethau o ran newid yn yr hinsawdd."

'Angen gwneud mwy'

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru ymrwymiad hir dymor i gymryd camau i daclo newid hinsawdd.

"Rydyn ni wedi cyrraedd ein targed polisi o 3%, oedd yn canolbwyntio ar allyriadau o fewn grymoedd datganoledig, ond rydym yn cydnabod fod angen gwneud mwy ynghylch cyfanswm ein hallyriadau.

"Dyna pam ein bod ni wedi cryfhau ein hymrwymiad drwy'r Ddeddf Amgylchedd yn ddiweddar.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau a gwneud nifer o ymrwymiadau megis gosod targedau i Gymru gynhyrchu 70% o'r trydan rydyn ni'n ei ddefnyddio drwy ynni adnewyddadwy, ac uchelgais i gael sector gyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030."