Cyn-arweinydd UKIP, Caroline Jones yn gadael y blaid

Mae cyn-arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi ymddiswyddo o'r blaid.

Dywedodd Caroline Jones fod arweinydd UKIP, Gerard Batten yn gelyniaethu aelodau drwy symud y blaid i'r asgell dde eithafol.

Dywedodd AC Gorllewin De Cymru, a fydd nawr yn eistedd fel aelod annibynnol, fod y blaid yn symud "i gyfeiriad nad ydw i'n gyfforddus gydag e".

Mae ei phenderfyniad yn golygu fod gan grŵp UKIP - a ddaeth i'r Senedd gyda saith AC yn 2016 - nawr ddim ond pedwar aelod.

Fe wnaeth aelodau UKIP ethol Gareth Bennett i arwain y grŵp yn y Cynulliad dros yr haf, fisoedd wedi i Caroline Jones a dau gyd-aelod ddisodli'r cyn-arweinydd Neil Hamilton.

Cymodi nid gelyniaethu

Dywedodd Ms Jones wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae'r blaid wedi mynd i gyfeiriad nad ydw i'n gyfforddus ag e."

Ychwanegodd fod Mr Batten yn newid y blaid i "safbwynt mwy asgell dde eithafol, ac mae llawer o aelodau profiadol - gan gynnwys fi fy hun - yn ei weld fel rhywbeth annymunol iawn".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gerard Batten ei benodi'n arweinydd UKIP ym mis Ebrill

"Wnes i erioed ymuno gyda'r blaid i fod yn rhan o sefydliad asgell dde eithafol. Fe wnes i ymuno am fy mod am ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n dal eisiau gwneud hynny," meddai.

"Dylai Gerard Batten wrando ar bob ochr a cheisio cymodi a dod â phobl at ei gilydd yn hytrach na'u gelyniaethu."

Mae Mr Batten wedi taro'n ôl gan ddweud bod Ms Jones "heb gyflawni unrhyw beth" a bod ei datganiad yn "nonsens gwleidyddol gywir i guddio'r ffaith ei bod hi'n aneffeithiol yn wleidyddol".

Ychwanegodd fod yntau wedi wedi adfer sefyllfa ariannol y blaid a gwella'i pherfformiad yn y polau piniwn.

Galw am gamu lawr

Dywedodd Mr Bennett nad oedd "wedi synnu" gydag ymadawiad Ms Jones gan ddweud y dylai unrhyw un oedd ddim yn cytuno gyda chyfeiriad y blaid "fynd oddi ar y trên a'i gwneud hi'n haws i'r grŵp weithredu".

Mae Mr Hamilton eisoes wedi galw ar Ms Jones i ymddiswyddo fel AC rhanbarthol hefyd, a gadael i aelod arall o UKIP gymryd ei lle.

Ond dywedodd AC Gorllewin De Cymru wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales na fyddai hi'n ildio'i sedd yn y Cynulliad.

Mae'r ddau AC UKIP arall, David Rowlands a Michelle Brown, wedi dweud eu bod yn "siomedig" fod Caroline Jones wedi gadael y blaid, ac na fyddan nhw'n ei dilyn hi.

Ychwanegodd Mr Rowlands fod Ms Jones yn "rhagrithiol" am beidio ag ildio'i sedd, a hynny wedi iddi hi alw ar Mark Reckless i wneud hynny pan wnaeth e symud o grŵp UKIP at y Ceidwadwyr.