Â鶹ԼÅÄ

Arweinydd newydd grŵp UKIP heb ddatgan swydd ei gŵr

  • Cyhoeddwyd
Caroline Jones ac Alun WilliamsFfynhonnell y llun, Caroline Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caroline Jones gyda'i gŵr Alun Williams ar ddiwrnod eu priodas yn 2011

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall bod arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi bod yn cyflogi ei gŵr ers dros flwyddyn heb iddi ddatgan hynny'n ffurfiol.

Mae Alun Williams wedi bod yn gweithio i Caroline Jones AC ers Ebrill 2017 fel gweithiwr achos cymunedol llawn amser.

Doedd y ffaith ei fod yn cael ei gyflogi ddim wedi'i ddatgan ar gofrestr buddiannau Ms Jones, fel sy'n rhaid gwneud dan reolau'r Cynulliad.

Dywedodd Ms Jones ei fod yn gamgymeriad, a bod hynny wedi cael ei gywiro ddydd Mawrth yn dilyn ymholiadau Â鶹ԼÅÄ Cymru.

'Ddim yn rhan o'i recriwtio'

"Doeddwn i ddim yn rhan o recriwtio fy ngŵr - MBS wnaeth ddelio â'r broses gydag ychydig iawn o gyfraniad gan fy swyddfa i," meddai Ms Jones mewn datganiad.

"Roedd y broses yn agored a theg, ac fe gafodd fy ngŵr ei ddewis am mai ef oedd y person gorau ar gyfer y swydd.

"Am mai MBS oedd yn delio â'r holl broses, roedd fy swyddfa yn credu y byddai'r Gofrestr Buddiannau yn cael ei ddiweddaru'n awtomatig.

"Unwaith y cefais fy ngwneud yn ymwybodol o'r camgymeriad fe wnes i ddiweddaru fy nghofrestr yn syth."

Fe ddaeth Ms Jones yn arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi i Neil Hamilton gael ei ddisodli'r wythnos diwethaf.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn am sylw gan Gomisiwn y Cynulliad.