Gweledigaeth Alun Cairns ar gyfer 'Pwerdy'r Gorllewin'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y cyfrifoldeb am y pontydd ei drosglwyddo i Lywodraeth Prydain ar 8 Ionawr 2018

Bydd Ysgrifennydd Cymru yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer 'Pwerdy'r Gorllewin' yng Nghasnewydd ddydd Llun gyda'r nod o sicrhau hwb economaidd i dde Cymru a de orllewin Lloegr.

Wrth i'r tollau ar bontydd Hafren ddod i ben ddiwedd eleni mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i weld busnesau o bob ochr i'r bont yn rhannu arbenigedd a datblygu syniadau a phrosiectau.

Bydd Alun Cairns yn gwneud ei sylwadau ger bron arweinwyr llywodraeth leol ac addysg yn seminar Fforwm Polisi Cymru.

Bydd yn gosod her i'w gynulleidfa i gyflwyno syniadau ar sut i wella partneriaethau sy'n bodoli eisoes ac i ddatblygu prosiectau cydweithio newydd.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod cwmnïau eisoes yn elwa wedi i TAW gael ei dynnu oddi ar bris y tollau.

Wedi i'r tollau ddod i ben yn llwyr mae Llywodraeth y DU yn gobeithio y bydd prosiectau ar y cyd o fudd nid yn unig i Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Bryste a Chaerfaddon ond i ardaloedd ehangach yn ne Cymru a De Orllewin Lloegr.

'Arwain y byd'

Mae disgwyl i Mr Cairns ddweud: "Mae'r dinasoedd ar ochr orllewinol y DU yn gryf yn annibynnol ond gyda'i gilydd nid ydym yn ddigon cryf.

Disgrifiad o'r llun, Ym mis Ionawr dywedodd Alun Cairns y gallai busnesau de Cymru elwa o ffyniant economi lewyrchus Bryste

"Rhaid sicrhau newid real yn y ffordd y mae busnesau y ddwy ochr i bont Hafren yn cydweithio wedi i'r tollau ddod i ben.

"Dwi i ddim yn dweud y dylai un dinas arwain - ond yn hytrach casgliad o ddinasoedd, cymunedau a busnesau - gyda'i gilydd mi allant arwain y byd.

"Bydd modd creu swyddi a chyfleoedd i'r nifer sy'n byw neu sy'n ystyried buddsoddi yn yr ardal.

"Rhaid achub ar y cyfle i greu rhanbarth economaidd yn rhan orllewinol y DU - rhanbarth a fydd yn gallu cystadlu gyda Phwerdy'r Gogledd, Injan Canolbarth Lloegr ac economi y De Ddwyrain.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth fusnesau fod angen strategaeth tymor hir.

"Yn rhy hir," meddai, "mae tollau Pont Hafren wedi atal busnesau a phobl yng Nghymru rhag cydweithio gyda rhanbarth de orllewin lloegr.

"Er bod yna wahaniaethau trawsffiniol mae'n gwbl eglur y gallwn ddysgu gwersi ac elwa ar brofiadau y naill ochr a'r llall.

"Chi arbenigwyr all wneud hyn yn bosib. Rhaid i'r cyfan ddeillio o'ch agwedd ac o'ch syniadau."