Mims Davies: 'Amherthnasol bod fy etholaeth yn Lloegr'

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU

Disgrifiad o'r llun, Mae Mims Davies wedi olynu Stuart Andrew fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru

Mae'r ffaith ei bod hi'n cynrychioli etholaeth yn ne Lloegr yn "amherthnasol" i'w swydd newydd, yn ôl gweinidog newydd yn Swyddfa Cymru.

Gan ymateb i feirniadaeth am ei phenodiad, dywedodd yr AS Mims Davies - sy'n cynrychioli Eastleigh yn Hampshire - ei bod yn deall pryderon pobl.

Ychwanegodd nad oedd hi'n "anarferol i Aelodau Seneddol fod â phortffolios sy'n cyd-fynd â'u hetholaethau, ac eraill â photffolios nad oeddent yn gwneud".

Dywedodd Ms Davies: "Roeddwn yn byw yn Abertawe am naw mlynedd, ger y carchar, ger hen gae'r Vetch.

"Dyna le ddechreuais fy ngyrfa ac mae fy nheulu yn hanner Cymreig.

"Dwi wedi derbyn cyfle hynod wych gan y prif weinidog i weithio ar ran Llywodraeth y DU yma yng Nghymru.

"Mae'r rhai sy'n fy adnabod fel gwleidydd yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i wneud gwaith da."

Yn ystod ei hymweliad swyddogol cyntaf fel gweinidog dros Gymru, dywedodd Ms Davies bod treulio'r deuddydd yn ennyn cefnogaeth i Gynllun Twf y Gogledd yn "bwysig iawn, iawn".

"Dwi'n meddwl bod angen rhoi'r amser i Gymru, gwneud jobyn dda, a sicrhau fy mod i yn adeiladu ar waith y gweinidog blaenorol, Stuart Andrew, oedd yn gweithio'n galed i ddatblygu'r Cynllun Twf," meddai.

"Dwi'n credu mai dyna mae pobl eisiau gweld gan weinidogion Llywodraeth y DU - sef gweld y cynllun yma'n dwyn ffrwyth, wrth ddatblygu dros y 15 mlynedd nesaf, sy'n bwysig yn lleol, ac maen nhw hefyd am ein gweld yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru."

Cafodd Ms Davies ei phenodi fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru ym mis Gorffennaf gan olynu'r AS Stuart Andrew, oedd hefyd yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr.