Â鶹ԼÅÄ

Angen i drafodaethau twf i'r gogledd godi stêm

  • Cyhoeddwyd
Mims DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Mims Davies ei phenodi i Swyddfa Cymru yn dilyn ymddiswyddiad AS Aberconwy, Guto Bebb ym mis Gorffennaf

Fe fydd rhaid i gynigion ar gyfer cynllun twf i ogledd Cymru ddechrau codi stêm wrth i drafodaethau gyrraedd eu terfyn, yn ôl Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru yn San Steffan.

Bydd Mims Davies AS, yn cychwyn ar ei thaith swyddogol gyntaf yng Nghymru ers ei phenodiad ym mis Gorffennaf.

Wrth ymweld â safleoedd ar hyd y gogledd, bydd Ms Davies yn amlinellu gweledigaeth llywodraeth y DU i ogledd Cymru.

Mae cynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru yn rhan o gynllun y llywodraeth sy'n disgrifio gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y rhanbarth am 15 mlynedd nesaf.

'Cynhyrchu swyddi'

Bydd Ms Davies yn ymweld â chanolfan OpTIC yn Llanelwy yn gyntaf, a chyfarfod Cadeirydd Pwyllgor Twf Gogledd Cymru, Cyng. Aaron Shotton a'r Is Gadeirydd, Cyng. Dyfrig ap Siencyn.

Dywedodd Ms Davies cyn ei hymweliad: "Fe allai cynlluniau fel yr un ar gyfer gogledd Cymru gynhyrchu canlyniadau sylweddol fel swyddi, buddsoddiad mewn trafnidiaeth a dod a busnesau a llywodraethau lleol yn agosach.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Mims Davies AS yn ymweld â Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Sir Conwy

"Dros y dyddiau nesaf, byddaf yn edrych ymlaen at gyfarfod y bobl hynny fydd yn ganolog i wneud y cynllun yma lwyddo.

"Fe allai'r wobr sy'n disgwyl gogledd Cymru fod yn drawsnewidiol. Nawr yw'r amser i ddod at ein gilydd ac i wthio'r cynlluniau ymlaen a sicrhau ein bod ni'n cael y cynllun yma dros y llinell derfyn," meddai.

'Rhannu stori'

Bydd Ms Davies hefyd yn ymweld â Surf Snowdonia yng Nghonwy ac yn cwrdd â pherchnogion busnesau bach yr ardal er mwyn clywed eu barn nhw ar sut allai'r llywodraeth eu cynorthwyo nhw i dyfu eu busnesau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol Surf Snowdonia, Justin Everley: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r gweinidog i Surf Snowdonia.

"Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein staff iddi a rhannu ein stori hyd yma.

"Rydym hefyd wedi ein cyffroi i fod mewn sefyllfa i rannu ein cynlluniau datblygu fydd yn ein galluogi i dyfu a datblygu fel busnes yn 2019 a thu hwnt," meddai.