Â鶹ԼÅÄ

Lansio undeb myfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stondin Prifysgol Caerdydd

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) wedi cael ei lansio'n swyddogol ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Mewn digwyddiad arbennig ym Mhabell Prifysgol Caerdydd cafodd y corff newydd ei lansio gan fyfyrwyr y brifysgol.

Daeth y cyhoeddiad y byddai undeb newydd yn cael ei sefydlu ym mis Mawrth 2017, ar ôl i 87% o Senedd y Myfyrwyr bleidleisio o'i blaid.

Dywedodd Llywydd UMCC, Osian Morgan fod y lansiad yn "gyfle euraid i ni hyrwyddo'r datblygiadau cyffrous i'r Gymraeg o fewn y brifysgol ar lawr gwlad".

'Cyfle i ddathlu'

Roedd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg yn bresennol yn y lansiad fel siaradwraig gwadd, ynghyd a nifer o fyfyrwyr y brifysgol.

Bydd yr undeb newydd yn gyfrifol am gynrychioli siaradwyr Cymraeg y brifysgol yn ogystal â cheisio "sicrhau fod myfyrwyr Cymraeg y brifysgol yn derbyn eu hawliau yn ddiofyn ac yn ddieithriad".

Yn ôl datganiad bydd UMCC hefyd yn ceisio sefydlu cymuned "gref, fywiog ac amrywiol o siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol", sy'n galluogi unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg a'i diwylliant "deimlo fel rhan o'r gymuned honno".

Ffynhonnell y llun, Osian Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Osian Wyn Morgan yw Llywydd UMCC

Dywedodd Mr Morgan, oedd yn arwain y lansiad eu bod yn "hynod o gyffrous" i lansio UMCC yn ystod yr Eisteddfod.

"Gyda'r brifwyl yn ymweld â'r brifddinas eleni, mae'n addas iawn mai yn y brifwyl hon y byddwn yn dathlu'r datblygiad cadarnhaol hwn i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd," meddai.

Ychwanegodd nad hyrwyddo'r iaith yn unig fydd UMCC ond eu bod nhw'n bwriadu "gweithredu dros y Gymraeg" hefyd, gan nodi'r "cam pwysig hwn tuag at gydraddoldeb ieithyddol ym mhrifysgol prifddinas Cymru".

Mae UMCC wedi dweud yn y gorffennol y byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â chymdeithasau Cymraeg eraill sydd eisoes yn bodoli o fewn y brifysgol, fel y GymGym.