Â鶹ԼÅÄ

Sefydlu undeb Cymraeg 'i sicrhau cydraddoldeb ieithyddol'

  • Cyhoeddwyd
UMCCFfynhonnell y llun, Google

Bydd sefydlu undeb myfyrwyr Cymraeg newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn gam at "sicrhau cydraddoldeb ieithyddol i fyfyrwyr Cymaeg", medd swyddog presennol yr iaith ar undeb prifysgol y brifddinas.

Ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd 87% o aelodau senedd myfyrwyr undeb y brifysgol o blaid sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC).

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, dywedodd Osian Morgan mai'r nod yw dilyn ôl troed UMCA yn Aberystwyth ac UMCB ym Mangor.

'Ynysig'

Dywedodd mai un o'r rhesymau dros sefydlu'r undeb oedd y pryder fod Cymry Cymraeg yn ynysig o weddill y myfyrwyr: "Dwi 'di bod yma am bron i ddwy flynedd rwan, ac o be dwi'n weld, dydy siaradwyr Cymraeg ddim yn tueddi i ymwneud â'r undeb.

"Da' ni'n gwbwl ynysig o'r undeb a'r prif gorff o fyfyrwyr yma yng Nghaerdydd, sydd yn bechod, achos mae yna gyfleusterau gwych yn yr undeb. Mae lot o bres gan y brifysgol ac maen nhw'n gwario hwnnw'n gall.

"Rwy'n hyderus y bydd sefydlu UMCC yn gam cadarnhaol ac angenrheidiol ar ein taith i sicrhau cydraddoldeb ieithyddol i fyfyrwyr Cymraeg yn ein Prifddinas."

Ffynhonnell y llun, Osian Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae sefydlu UMCC yn gam at sicrhau cydraddoldeb ieithyddol ym mhrifysgol Caerdydd medd Osian Wyn Morgan

Nid dyma'r tro cyntaf i fyfyrwyr ymdrechu i sefydlu undeb o'r fath yng Nghaerdydd. Cafodd undeb UMCC ei sefydlu nôl yn 2006, ond daeth i ben ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae Osian Morgan yn fwy gobeithiol am ddyfodol yr undeb newydd: "Byddwn ni o fewn yr undeb, felly bydd rôl swyddog y Gymraeg, sef beth ydw i'n ei wneud rwan, yn newid i fod yn llywydd UMCC.

"Bob blwyddyn, yn lle ethol swyddog y Gymraeg, byddwn ni'n ethol pwyllgor UMCC, a bydd y llywydd yna yn swyddog ymgyrch o fewn yr undeb. Mae hynny'n rhoi mwy o statws a hwb a pharch iddo fo, nag os oedden ni'n ei sefydlu y tu allan i'r undeb."

Mae 'na gymdeithasau eraill Cymraeg o fewn Prifysgol Caerdydd, fel Y Gym Gym, ac yn ôl Osian Morgan, mae yna le iddyn nhw i gyd: "Rydan ni'n awyddus iawn i sicrhau bod UMCC ddim yn disodli'r Gym Gym ond yn gweithio efo'r Gym Gym, achos mae 'na dri sefydliad Cymry Cymraeg o fewn y brifysgol.

"Gobeithio y bydd UMCC fel rhyw fath o ymbarél drostyn nhw er budd holl siaradwyr Cymraeg y brifysgol."

Gwella'r berthynas

Ac mae Osian yn gobeithio y bydd sefydlu'r undeb hefyd yn gwella cysylltiadau: "Mae'r berthynas dros y blynyddoedd diwetha' rhwng yr undeb a siaradwyr Cymraeg wedi bod yn eitha gwan, ond dros y ddwy flynedd diwetha, da' ni wedi gweld camau cadarnhaol yn cael eu cymryd.

"Y llynedd, naethon ni greu polisi iaith Cymraeg newydd, sy'n bolisi cynhwysfawr iawn. Mae agweddau swyddogion yr undeb tuag at y Gymraeg yn gwella o flwyddyn i flwyddyn, baswn i'n dweud.

"Dwi di bod yn gweithio'n agos gyda llywydd yr undeb, Sophie Timbers. Mae hi wedi sylweddoli bod yna broblemau yn bodoli ymysg y gymuned Gymraeg ac yn enwedig y berthynas rhwng y gymuned Gymraeg a'r undeb, ac mae hi wedi bod yn awyddus i weithio hefo fi i wella hynny - a sefydlu UMCC ydy hynny."