Â鶹ԼÅÄ

Geraint Thomas: Y gorau o Gymru ym myd y campau?

  • Cyhoeddwyd
GFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Geraint Thomas wedi creu hanes - y Cymro cyntaf erioed i ennill Le Tour de France.

Le Tour, ras feicio enwoca'r byd, yw un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd hefyd.

Ond lle mae Geraint yn sefyll - neu'n eistedd - ymysg yr unigolion o Gymru sydd wedi rhoi'r genedl ar y map chwaraeon rhyngwladol?

Mae Dafydd Pritchard, gohebydd chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru o'r farn bod lle Geraint yn y llyfrau hanes yn sicr.

"Roedd Geraint yn barod ymhlith y goreuon yn hanes chwaraeon Cymru ar ôl iddo ennill medalau aur yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012," meddai.

"Er hynny, mae ennill Le Tour de France yn trawsnewid bywyd unrhyw seiclwr.

"Dyma un o'r campau anoddaf i ennill o fewn unrhyw chwaraeon, ac yn anoddach fyth i seiclwr fel Geraint sydd wedi gorfod datblygu o fod yn seiclwr trac hynod lwyddiannus i fod yn un o seiclwyr gorau'r byd ar yr hewl.

Disgrifiad,

Faint o gyflawniad ydy ennill y Tour de France?

"Mae'r gŵr 32 mlwydd oed o Gaerdydd yn llawn haeddu ei le ymysg goreuon chwaraeon Cymru ac (er fy mod i'n dangos tuedd efallai oherwydd fy mod i'n ei adnabod!) mae'n bosib dadlau mai fe yw'r gorau ohonyn nhw i gyd."

Mae'r gohebydd chwaraeon Gareth Blainey hefyd yn talu teyrnged i'r hyn mae Geraint Thomas wedi'i gyflawni: "Un o orchestion mwya' unigolyn yn hanes chwaraeon Cymru. Mae'r ras yn brawf anferth o allu corfforol ac mae Thomas wedi disgleirio."

Dyma rai o'r sêr chwaraeon eraill o Gymru sydd wedi cyrraedd enwogrwydd byd am eu gyrfaoedd arbennig.

Colin Jackson

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Mae Colin Jackson o Gaerdydd yn cael ei gydnabod fel un o'r rhedwyr dros glwydi 110m gorau erioed. Daliodd y record byd am 13 o flynyddoedd, ac fe enillodd Bencampwriaethau'r Byd ar ddau achlysur, gan hefyd gael dwy fedal arian ac un efydd.

Medal arian a gafodd yng Ngemau Olympaidd Seoul yn 1988, ond fe enillodd dwy fedal aur a dwy fedal arian dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad rhwng 1986 a 2002. Yn Bencampwr Ewrop bedair gwaith a gyda llu o fedalau eraill, mae'n cael ei ystyried gan lawer fel yr athletwr gorau erioed o Gymru.

Nicole Cooke

Ffynhonnell y llun, CARL DE SOUZA

Mae Nicole Cooke o Fro Morgannwg wedi ennill dwsinau o gystadlaethau, gan gynnwys medal aur yn y Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd. Fe wnaeth hi hefyd ennill y Giro d'Italia Femminile yn 2004 a'r Grande Boucle Féminine Internationale (Le Tour de France i ferched) yn 2006 a 2007.

Fe wnaeth Nicole Cooke ymddeol yn 2013, yn 29 oed, ac mae bellach yn ymgyrchydd ar gyfer cydraddoldeb i fenywod mewn chwaraeon.

Gareth Edwards

Enillodd Gareth Edwards ei gap cyntaf yn erbyn Ffrainc yn Stade Olympique de Colombes ar 1 Ebrill, 1967, pan oedd yn 19 oed. Aeth y bachgen o Waun-Cae-Gurwen 'mlaen i chwarae 53 gwaith yn olynol dros ei wlad yn ystod oes aur rygbi Cymru.

Yn 2003, mewn pôl o chwaraewyr rygbi rhyngwladol gan y cylchgrawn Rugby World, cafodd Gareth Edwards ei enwi fel y chwaraewr rygbi gorau erioed. Ac yn 2007, yn ei golofn yn rhestru 50 o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed yn y Daily Telegraph, fe roddodd cyn-gapten Lloegr, Will Carling, Edwards ar frig y rhestr.

Gareth Bale

Ffynhonnell y llun, David Ramos

Mae Gareth Bale yn enw mae pobl yn ei adnabod ledled y byd, ac fel un o sêr Real Madrid mae o wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith mewn pum mlynedd.

Roedd ei goliau yn allweddol i Gymru gyrraedd Pencampwriaethau Euro 2016. Ond dyrchafodd Bale i enwogrwydd byd-eang drwy sgorio mewn dwy rownd derfynol yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Sgoriodd yn erbyn Atlético Madrid yn y rownd derfynol yn 2014, a sgoriodd ddwy yn erbyn Lerpwl yn 2018, gan gynnwys cic am yn ôl dros ei ben sydd yn cael ei gweld fel yr orau yn hanes y gystadleuaeth.

Ond ydy Bale uwchben John Charles neu Ryan Giggs ymhlith y gorau i wisgo'r crys coch?

Tanni Grey-Thompson

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Enillodd Tanni Grey-Thompson 11 medal aur, pedair medal arian a dwy efydd yn y Gemau Paralymapaidd rhwng 1988 a 2004.

Roedd ganddi record byd ar 30 achlysur ac fe enillodd Marathon Llundain chwe gwaith rhwng 1992 ac 2002.

Ian Woosnam

Ffynhonnell y llun, Augusta National

Daeth awr fawr y golffiwr o ganolbarth Cymru yn 1991 pan enillodd y Masters yn Augusta, Georgia, gan guro José María Olazábal o un ergyd.

Roedd Woosnam yn aelod o dîm Ewrop yng Nghwpan Ryder wyth gwaith yn olynol, rhwng 1983 ac 1997, ac roedd yn gapten ar y garfan ar gyfer y gwpan yn 2006.

Joe Calzaghe

Ffynhonnell y llun, John Gichigi

Fe ymddeolodd Joe Calzaghe ddegawd yn ôl gyda record berffaith - 46 buddugoliaeth mewn 46 gornest.

Er bod gornestau mawr wedi bod yn erbyn Chris Eubank, Jeff Lacy a Mikkel Kessler, efallai y daeth y bwysicaf yn 2008 pan drechodd Bernard Hopkins yn Las Vegas - ei ornest gyntaf yn yr Unol Daleithiau.

Drwy guro Hopkins daeth Calzaghe yn bencampwr byd mewn dau bwysau gwahanol. Ynghyd â'i gyd-Gymry Jimmy Wilde a Freddie Welsh, mae Calzaghe'n cael ei ystyried fel un o'r bocswyr gorau erioed o Brydain.

Lynn Davies

Enillodd Lynn 'The Leap' Davies fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop a ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad dros Gymru. Ond yn 1964 oedd y diwrnod pwysicaf yn ei yrfa, pan enillodd yr aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Ei naid orau oedd 8m 23cm yn 1968 ac roedd hefyd yn cystadlu yn y ras 100m a'r ras gyfnewid 100mx4.

Ydyn ni wedi anghofio am rhywun? Pwy sydd ar frig eich rhestr chi? Anfonwch eich sylwadau atom ni drwy lenwi'r ffurflen isod neu ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk