Â鶹ԼÅÄ

Titw Tomos Las, Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fideo: Arwel a Myrddin yn dychwelyd i'r stiwdio i recordio fersiwn arbennig o hen glasur

Roedd dydd Mercher yn ddiwrnod allweddol i Geraint Thomas wrth i'r seiclwr ddal ei afael ar y crys melyn yn y Tour de France - ac ymestyn ei fantais yn y broses.

Mae'r gŵr o Gaerdydd yn arwain ras seiclo mwyaf adnabyddus y byd, ac mae ei lwyddiant wedi ysbrydoli'r genedl.

Ond beth sy'n cysylltu Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas?

Diolch i raglen Aled Hughes ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, mae Hogia'r Wyddfa - ynghyd â Band Pres Llareggub a Siddi - wedi ail recordio un o'u caneuon enwocaf, Titw Tomos Las, mewn teyrnged i gampau'r Cymro yn Ffrainc.

Dywedodd Arwel Jones, o Hogia'r Wyddfa: "Fe gyfansoddwyd y gân yn niwedd y 60au yn Ysgol Dolbadaran, Llanberis.

"Y diweddar Eirlys Pierce gyfansoddodd yr alaw i eiriau T. Llew Jones. Fel rhan o addysg y plant gychwynodd hi, ond erbyn heddiw mae'n canu clodydd Geraint Thomas."

Fel mae Arwel yn ei gydnabod, cefnogwyr Geraint sydd wedi cychwyn yr arferiad [ os nad ydy'r fideo yn ymddangos yn syth]:

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan Geraint Thomas

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan Geraint Thomas

Erbyn hyn, mae'n debyg bod Geraint ei hun yn hoff iawn ohoni ac mae wedi dod yn ychydig o anthem ar y Tour iddo.

Tybed os welwn ni'r gân yn cyrraedd rhif un yn y siartiau os fydd Geraint yn fuddugol?

  • Mae modd edrych ar gymal 17 y Tour de France yn fyw ar ac ar Facebook Live ar dudalen am 14:00 ddydd Mercher.