Â鶹ԼÅÄ

Geraint Thomas yn arwain Le Tour gyda tri chymal ar ôl

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Thomas 1:59 eiliad ar y blaen i Tom Dumoulin sy'n ail yn y dosbarth cyffredinol

Mae Geraint Thomas wedi llwyddo i ddal ar y crys melyn yn y Tour de France gyda thri chymal yn weddill o'r ras.

Ar ddiwedd cymal 18, llwybr fflat rhwng Trie-sur-Baïse a Pau, mae Thomas yn parhau 01:59 ar y blaen i Tom Dumoulin sy'n ail yn y dosbarthiad cyffredinol.

Y gwibiwr Arnaud Demare enillodd y cymal.

Gyda 4.5km yn weddill o'r cymal, roedd Thomas wedi dal yn ôl rhag ymuno gyda'r gwibwyr, felly'n osgoi'r risg o unrhyw wrthdrawiad.

Disgrifiad,

Cefnogwyr Geraint Thomas allan yn Ffrainc

Dydd Gwener bydd o bosib yr her fwyaf i Thomas, wrth i gymal 19 olygu mwy o ddringo mynyddoedd rhwng Lourdes a Laruns.

Mae'r pencampwr presennol, Chris Froome yn parhau yn y trydydd safle'n gyffredinol, 30 eiliad yn fwy ar ei hol hi.

Bydd y Tour de France yn dod i ben ddydd Sul.