74% o ganolfan Yr Egin S4C wedi llenwi â thenantiaid

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad yw agor y ganolfan ym mis Medi 2018

Mae 74% o ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei lenwi gyda thenantiaid, yn ôl Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae'r ffigwr yn uwch na'r targed o 60% o ddeiliadaeth gafodd ei osod yn wreiddiol i bencadlys newydd S4C.

Ymhlith y tenantiaid mae Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Gorilla, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm a Trywydd.

Yn ôl is-ganghellor y brifysgol mae'n "newyddion gwych" i'r datblygiad.

Y Â鶹ԼÅÄ ddim yn symud

Dywedodd dirprwy is-ganghellor cysylltiol y brifysgol, Gwilym Dyfri Jones, ym mis Rhagfyr 2017 mai gobaith y brifysgol oedd llenwi 60% o'r adeilad gyda thenantiaid addas. erbyn iddi agor.

Bellach, mae'r brifysgol yn dweud eu bod wedi sicrhau mwy o gefnogaeth i bencadlys newydd S4C.

Disgrifiad o'r llun, Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn diwedd yr haf

Yn y cyfamser mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi cadarnhau na fydd y gorfforaeth yn symud staff o'i swyddfa yng Nghaerfyrddin i'r Egin.

Mewn llythyr i staff dywedodd Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys Â鶹ԼÅÄ Cymru, Siân Gwynedd bod y penderfyniad wedi'i wneud oherwydd y "gost sylweddol" o symud.

"Tra bo'r weledigaeth ar gyfer Yr Egin yn un gyffrous, rydyn ni wedi penderfynu bod y gost sylweddol o symud ein swyddfa a'n stiwdios o un safle yn y dref i un arall ddim yn darparu gwerth am arian ar hyn o bryd."

Clwstwr creadigol

Dywedodd yr is-ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, ei fod yn "ddechrau ardderchog i'r datblygiad a fydd yn dod â gwerth economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i Sir Gaerfyrddin a Chymru".

Bydd yr adeilad yn agor ym mis Medi eleni.

Yn ogystal â derbyn £3m gan y llywodraeth, mae canolfan Yr Egin hefyd yn un o 11 o brosiectau ar draws y de-orllewin sydd wedi'u hariannu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Yn ôl y brifysgol, bydd Yr Egin yn hwb i weithgarwch creadigol yn y sir ac yn "sbardun allweddol" ar gyfer ymestyn y diwydiannau creadigol ymhellach draw i ranbarth Dinas Bae Abertawe.