Â鶹ԼÅÄ

S4C i gael benthyg £10m i symud i safleoedd newydd

  • Cyhoeddwyd
Yr EginFfynhonnell y llun, PC DDS
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r safleoedd y mae S4C yn bwriadu symud iddo yw canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin

Bydd S4C yn cael benthyg hyd at £10m gan Lywodraeth y DU i helpu gyda chostau adleoli'r sianel yn y dyfodol.

Bwriad S4C yw symud eu pencadlys i ganolfan newydd Yr Egin, sy'n cael ei sefydlu yng Nghaerfyrddin gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Maen nhw hefyd yn bwriadu rhannu cyfleusterau darlledu gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru yng Nghaerdydd.

Byddai unrhyw arian sy'n cael ei fenthyg gan y sianel yn mynd at hwyluso'r adleoli.

Mae'r sianel hefyd wedi derbyn £350,000 o arian cyfalaf ychwanegol am 2017/18.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau dyfodol S4C, a'r pecyn o fesurau a gyhoeddwyd heddiw, gan gynnwys benthyciad ariannol ar gyfer S4C.

"Bydd y benthyciad o £10m, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod gan S4C i DCMS, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dau bwrpas penodol: i gyfrannu tuag at gostau offer technegol ar gyfer cynlluniau arfaethedig S4C i rannu gwasanaethau darlledu gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru yn eu pencadlys newydd yng Nghaerdydd yn 2019 ac yn ogystal i ddarparu ariannu dros-dro er mwyn caniatáu taliad rhent ymlaen llaw S4C i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ar gyfer les yr Egin yn 2018 hyd nes y bydd pencadlys presennol S4C yn Llanisien wedi ei werthu.

"Bydd gweddill y benthyciad yn cael ei ad-dalu o arbedion fydd yn deillio o'r ddau gynllun."

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu £3m at y gwaith o adeiladu yr Egin.

Mae disgwyl y bydd £3m arall yn dod o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gafodd ei harwyddo ddydd Llun.