Â鶹ԼÅÄ

Adam Price yn dweud bod Plaid Cymru angen dau arweinydd

  • Cyhoeddwyd
Adam Price AC

Mae angen i Blaid Cymru gael dau arweinydd, meddai Adam Price AC, ar drothwy dyddiad cau'r enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Mewn erthygl yn rhifyn dydd Llun o'r Western Mail mae Mr Price yn dweud ei fod yn "amlwg i mi na all un arweinydd arwain yr un blaid ar ei ben ei hun".

Noda: "Ry'n am i egwyddorion arweinyddiaeth i fod yn gadarn ond eto yn ystwyth yn wyneb newid.

"Ry'n am i arweinyddiaeth weithredu ein disgwyliadau afrealistig ac os nad yw hynny'n bosib ry'n yn trosglwyddo'r cyfrifoldebau i'r dirprwy sydd hefyd yn dangos gwendid gydag amser.

"Felly rwy'n cynnig model lle mae dau arweinydd yn arwain y blaid, un dyn ac un dynes - mi fyddai hynny yn rhoi arweinyddiaeth radical a chadarn a fyddai'n osgoi y gwendid traddodiadol o roi grym mewn un pâr o ddwylo.

"Mae'n amser cyflwyno dwy galon a dau feddwl er mwyn darparu cydbwysedd, gweledigaeth a her feirniadol - dyna pam mae nifer o bleidiau ar draws y byd yn mabwysiadau dull o gyd-arwain - y Blaid Werdd, pleidiau aden chwith yn Yr Almaen, plaid HDP y Cwrdiaid a phlaid y Maori yn Seland Newydd.

"Yn ein plaid ni, byddai cyd-arweinyddiaeth yn ein galluogi i gofleidio pob safbwynt gan sicrhau cynnydd gwleidyddol eang."

Mae'r dyddiad cau ar gyfer arweinyddiaeth y blaid canol nos 4 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood yn dweud wrth Aled ap Dafydd fis Mehefin y byddai'n croesawu her i'w harweinyddiaeth

Dyw Ms Wood ddim wedi wynebu her i'w harweinyddiaeth ers ei hethol yn arweinydd yn 2012 ond yn yr erthygl bapur newydd ddydd Llun mae Mr Price yn hynod feirniadol o gynnydd a strategaeth y blaid ar annibyniaeth gan ddweud bod dirfawr angen newid a hynny yn fuan.

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru fis diwethaf, dywedodd Leanne Wood y byddai'n croesawu her i'r arweinyddiaeth.

Dywedodd y byddai'n os na fyddai'n dod yn Brif Weinidog.

'Colli mil o aelodau'

Mae Mr Price, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, o'r farn y byddai cael gwared ar Leanne Wood yn gadael blas cas ac yn lle hynny wedi cyflwyno cynllun a fyddai'n cadw Ms Wood mewn grym ond gydag arweinydd gwrywaidd arall.

"Rwy'n credu," ychwanegodd, "ein bod yn gyson wedi methu â chyflwyno gweledigaeth lawn a deniadol ar gyfer y dyfodol.

"Ry'n wedi bod yn rhy esmwyth ein byd - gan ddibynnu ar ddatganiad i'r wasg, trydar a chyfrwng facebook.

"Mae hyn wedi cael ei weld fwyaf yn ein hagwedd at annibyniaeth - mae'n methiant i gyflwyno cynlluniau clir ac atyniadol yn egluro pam ein bod wedi colli dros fil o wyth mil o aelodau yn ystod yr wyth mis diwethaf.

"Rhaid gwasgu'r botwm ailddechrau ar gyfer ein plaid nawr - rhaid creu plaid gredadwy a fydd yn diddori ac yn creu hyder ym mhobl Cymru."

Mae Plaid Cymru wedi dweud fodd bynnag nad yw'r honiad eu bod wedi colli 1,000 o aelodau yn ystod y cyfnod hwnnw yn wir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth hefyd wedi dweud ei fod yn "ystyried" dadl am yr arweinyddiaeth

Wrth hefyd ysgrifennu yn y Western Mail mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud: "Rwyf am ddatgan fy mod yn ystyried fy ymateb i wahoddiad Leanne ar gyfer dadl ar yr arweinyddiaeth."

"Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd ydy fy mod yn siarad gyda chynifer o bobl ac sy'n bosib ynglyn â sut mae symud Plaid Cymru ymlaen. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn Cymru, nid ni ein hunain."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn cael ar ddeall y byddai Mr Price yn caniatáu ethol Aelod Seneddol yn gyd-arweinydd yn ogystal ag Aelod Cynulliad, petai yna newid i reolau'r blaid.

Y gred yw fod Mr Price eisiau i Ms Wood ymrwymo i'w gynnig ddiwrnod cyn yr amser cau ar gyfer derbyn enwebiadau wedi trafodaethau ag aelodau cynulliad.

'Ystyried yr holl gynigion'

Mae rhai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru, fel cyn-arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi awgrymu bod angen arweinydd newydd, ac mae tri Aelod Cynulliad - Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones - .

Dros y penwythnos daeth i'r amlwg bod agored yn cefnogi ailethol Leanne Wood.

Yn ymateb i'r alwad am ddau arweinydd, dywedodd llefarydd ar ran Ms Wood y bydd "yr holl gynigion yn cael eu hystyried".

"Rwy'n siŵr ein bod ni oll yn benderfynol o sicrhau ein bod yn parhau i weithio yn y modd mwyaf agored a democrataidd sy'n bosibl," meddai.