Â鶹ԼÅÄ

Aelodau'n galw ar ddau AC Plaid i herio Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae canghennau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth wedi galw ar eu haelodau Cynulliad lleol i herio Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid.

Mae aelodau cangen y blaid yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi enwebu Adam Price, ac mae cangen Ynys Môn wedi cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Mater i'r ddau AC yw derbyn neu wrthod yr enwebiadau a chynnig eu hunain yn ffurfiol, cyn i'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau ar 4 Gorffennaf.

Mae Plaid Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae am yr arweinyddiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price a Rhun ap Iorwerth

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru fe ddywedodd Leanne Wood y bydd hi'n .

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod wedi enwebu Mr Price ddydd Iau.

Mewn cynhadledd newyddion yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Mr ap Iorwerth am yr arweinyddiaeth.

Ond mewn negeseuon ar ei gyfrif Twitter wedi hynny fe ddywedodd ei fod wedi cael sawl cais i ystyried ymgeisio a'i fod yn "ystyried yn ofalus, wrth gwrs" .