Ateb y Galw: Yr actores Saran Morgan

Ffynhonnell y llun, Saran Morgan

Yr actores Saran Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Alun Saunders yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Torri fy llygad ar agor ar gornel y gwely pan o'n i'n dair. Dwi ddim yn cofio lot, ond dwi'n cofio gorwedd yn yr ysbyty wrth i Dr Wagi o'r Aifft fy mhwytho i fyny, a Mam yn adrodd stori Elen Benfelen.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fred o Scooby-Doo! - y cartŵn a Freddie Prinze Jr o'r ffilmiau.

Ffynhonnell y llun, Scooby-Doo

Disgrifiad o'r llun, Gyda'i wallt melyn hyfryd, a'r sgarff goch o amgylch ei wddw, dyw hi ddim yn syndod fod gan y Saran ifanc grysh ar Fred

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nes i bisho'n hunan pan o'n i'n canu'r alaw werin yn Steddfod sir Caerdydd yn 10 mlwydd oed. Dwi'n gallu chwerthin nawr, ond ar y pryd o'n i'n meddwl bod bywyd ar ben!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn gwylio ail gyfres Queer Eye ar Netflix yn ddiweddar. Mae pob un bennod mor emosiynol a lysh.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n gwario llawer gormod ar ddillad ac ar esgidiau, ac yn sucker am sêl. Pan dwi ddim yn actio dwi'n gweithio yn Kiti, boutique dillad ym Mhontcanna, sy' mor ddansherus gan bod e'n llawn o bethau anhygoel.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n caru Caerdydd. Dwi mor lwcus i ddod o ddinas sydd mor fach ond byrlymus, gyda gymaint o bethau cyffrous yn mynd ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Bae Caerdydd yn y gwyll yn olygfa hynod...

Dwi hefyd yn teimlo fel mod i'n perthyn i'r Gorllewin, ac yn dwlu ar draeth Glan y Fferi. Ro'dd fy nhadcu yn brifathro'r ysgol am gyfnod, felly o'dd Mam yn byw yna nes o'dd hi'n 7, ac mae'n nhad erbyn hyn yn byw yng Nghaerfyrddin, felly dwi'n ymweld yn weddol aml. Mae'r olygfa draw at Lansteffan yn odidog wrth i'r haul fachlud.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fe wnes i raddio blwyddyn d'wethaf o brifysgol Queen Mary yn Llundain, ac roedd cael pawb pwysig i mi mewn un lle yn gwbl lysh. Cafon ni ddiwrnod perffaith, a nes i sylweddoli pa mor lwcus ydw i.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Perffeithydd, bossy, ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm yw Working Girl gyda Sigourney Weaver a Melanie Griffiths. Gwylies i fe am y tro cyntaf pan o'n i'n ifanc iawn ac o'n i'n meddwl bod e mor glamorous a chynhyrfus, a nawr dwi'n mynd nôl ato'n aml.

Fy hoff lyfr yw The Women's Room gan Marilyn French. Nes i ei ddarllen tua blwyddyn yn ôl, ond dwi'n siŵr a i nôl ato eto ac eto. Mae'n llyfr am fenywod, a'r frwydr am gydraddoldeb. Mae'n glasur, ac yn fy marn i dylai pob menyw (a dyn) ei ddarllen.

O Archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mam fy mam, Ray. Doeddwn i ddim yn ei hadnabod hi, ond yn ôl Mam dwi'n debyg dros ben iddi mewn lot o ffyrdd. Bydden i'n dwlu cael cyfle i ddod i'w 'nabod hi dros lasied o win.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fe wnes i benderfynu troi'n llysieuwraig pan o'n i'n dair mlwydd oed. Sticies i ato fe yn weddol dda am 15 mlynedd, heblaw am cheeseburgers McDonald's, ar ôl i Steffan, fy mrawd, weud taw ond caws o'dd ynddon nhw, dim cig. Garies i 'mlaen i fwyta nhw, hyd yn oed ar ôl i fi sylweddoli fod e'n gweud celwydd. Wps!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Casglu pawb dwi'n caru mewn un lle, byta lot o'n hoff fwydydd, canu caneuon, hel atgofion a bod yn hapus.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Mae gen i'r tâst miwsig mwya' eclectig erioed, ma'n ffrindie i'n ofn pan dwi'n rhoi'n iTunes i ar shuffle. O Taylor Swift i Kirsty MacColl, i soundtrack Nia Ben Aur i Grimes. Ar hyn o bryd dwi'n mwynhau albwm newydd Lily Allen, No Shame.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - prawns mawr gyda garlleg a chilli a bara ffres

Prif gwrs - pizza gyda mozzarella a nduja

Pwdin - crème brûlée

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy nghi, Pandy. Mae'n cael ei drin fel brenin bach gan bawb ac yn cysgu'r rhan fwyaf o'r dydd!

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae Saran Morgan yn actio Nicky ar Gwaith Cartref - cymeriad sydd yn achosi dipyn o drafferth.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Lowri Palfrey