Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Dylan Garner

  • Cyhoeddwyd
Dylan GarnerFfynhonnell y llun, S4C

Y model a'r cyflwynydd Dylan Garner sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rwy'n credu mai f'atgof cyntaf yw mynd i'r siop yn Aberystwyth efo Dad i brynu anrheg pan cafodd fy mrawd ieuengaf, Llyr, ei eni pan o'n i tua 4.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Martina Hingis

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gwneud sioe ffasiwn ym Mharis mewn owtffit go ryfedd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y ffilm thriller, Man on fire. Mae Denzel Washington yn fy nghael i bob tro.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo ewinedd fy nhraed... ond fydda i wastad yn hŵfro ar fy ôl.

Ffynhonnell y llun, Richard Outram
Disgrifiad o’r llun,

Gyda golygfeydd fel rhain, does yna ddim syndod fod Dylan yn ffan o Barc Cenedlaethol Eryri

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ma' Cymru yn lle anhygoel - does dim un lle alla i ddweud yw fy hoff le. Mae'n siŵr unrhyw le yng Ngheredigion neu Barc Cenedlaethol Eryri... neu Sir Benfro hefyd... Rwy'n lwcus iawn i gael galw Cymru yn adref!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Rwy' wedi cael sawl noson dda yn fy amser. Efallai mai'r un orau oedd gwylio Blur ac wedyn Disclosure yn Barcelona - gwych!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Easy going, relaxed, gweld y gorau ('newch chi dderbyn hynny fel tri gair?!)

Beth yw dy hoff lyfr?

Newydd ddarllen llyfr da o'r enw Sapiens: A Brief History of Humankind gan Yuval Noah Harari. Ond fy hoff lyfr yw The old man and the sea gan Ernest Hemingway.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Reinhold Messner - sy'n cael ei gydnabod fel y mynyddwr gorau erioed. Mae e dal yn fyw ac i weld yn dipyn o gymeriad. Dwi wrth fy modd ag un o'i ddywediadau - The wonderful things in life are the things you do, not the things you have - a dwi'n trial dilyn yr athroniaeth hynny gymaint â phosib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Dylan wrth ei fodd yn cael diod gyda Reinhold Messner, ac ambell i air o gyngor ynglŷn â sut i gyrraedd copa Everest

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Yn y sinema, Hacksaw Ridge - ffilm dda. Ond o'dd hynny rhyw flwyddyn yn ôl - dwi ddim yn gwylio llawer o ffilmiau, â dweud y gwir.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Rhoi go ar ddringo Everest neu K2.

Dy hoff albwm?

Ar y funud, Jungle gan y band Jungle.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Unrhywbeth Eidalaidd neu o Fietnam. Beth am Beef Pho i ddechrau, pizza Neapolitan, yna crymbl afal Mam!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n hapus fel fi fy hun!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda rhai o enwau mawr y byd modelu...!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Huw Stephens