Â鶹ԼÅÄ

RT Davies yn glynu i'w ddatganiad yn beirniadu Airbus

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies bod ei safbwynt ynghylch Airbus yn debyg i un Llywodraeth y DU

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi amddiffyn datganiad ynghylch rhybudd y gallai cwmni Airbus adael y DU wedi Brexit - datganiad a wnaeth arwain at ffrae o fewn y blaid.

Roedd Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth y DU, Guto Bebb wedi beirnadu datganiad Andrew RT Davies, gan alw arno i dynnu ei eiriau "ymfflamychol" yn ôl.

Roedd Mr Davies wedi dweud fod y cwmni'n gwneud bygythiadau, yn gorliwio'r perygl o ddiswyddiadau pe bai'r DU yn gadael yr UE heb ddod i gytundeb, ac yn gwneud cam â'u gweithwyr.

Ond ar raglen Sunday Politics ddydd Sul fe ddywedodd Mr Davies fod ei safbwynt yn gyson ag un Llywodraeth y DU a bod yr ysgrifennydd iechyd, Jeremy Hunt wedi gwneud sylwadau tebyg.

'Trafod codi pac yn ffwrdd â hi'

Mae Airbus yn cyflogi dros 6,400 o bobl yng Nghymru - y mwyafrif ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Dywedodd y cwmni ddydd Gwener y os fydd y DU yn gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau heb gytundeb wedi Brexit.

Dywedodd Mr Davies yn ei ddatganiad: "Yn amlwg, mae Airbus yn gwmni pwysig i'r DU ac i Gymru - ond mae'n werth cofio mai sgiliau gweithlu dynamig y DU sydd wedi gwneud Airbus mor llwyddiannus ag y mae.

"Mae trafod codi pac i China mor ffwrdd â hi yn gwneud cam â'r gweithwyr hynny, a fysach chi'n meddwl mai Airbus oedd y cwmni cyntaf i ystyried torri costau - a thrwy hynny, safonau - a dydy'r canlyniad ddim yn un da, fel arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Bebb fod sylwadau Mr Davies yn ymfflamychol gan alw arno i'w tynnu'n ôl

Ond yn ôl Mr Bebb, AS Aberconwy, mae Airbus wedi "mynegi eu pryderon yn gyson ac mae'r llywodraeth yn rhannu eu dyhead am gytundeb buan a chynhwysfawr".

Fe wnaeth Mr Bebb hefyd herio hawl Mr Davies i gyfeirio at ei hun fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Fo yw arweinydd y grŵp yn y Cynulliad a thra nad ydw i'n gwybod os wnaeth o ymgynghori â'i gydweithwyr cyn cyhoeddi ei ddatganiad ymfflamychol fe wnaeth o yn sicr ddim cysylltu efo fi fel AS yng ngogledd Cymru.

"Mae saethu'r negesydd yn annheilwng o wleidydd... sy'n dyheu am arwain llywodraeth yng Nghymru. Fe ddylai dynnu ei eiriau yn ôl."

'Cyfnod o uno'

Fe ddywedodd Mr Hunt ddydd Sul bod hi'n "gwbl annerbyniol" i gwmni wneud bygythiadau ynghylch Brexit, ac ar raglen Sunday Politics Wales fe ddywedodd Mr Davies fod ei ddatganiad yntau ddydd Gwener yn dweud yr un peth.

"Mae hwn yn gyfnod o uno a gweithio gyda Llywodraeth y DU. Y cam fyddai symud gwaith cynhyrchu i China."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae adennydd yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mhrychdyn

Roedd ymateb Mr Bebb, meddai, yn "annisgwyl" ac fe awgrymodd y "bydd Guto a minnau'n cwrdd yn fuan, dwi'n siŵr, ac fe gawn drafod y peth dros beint".

Ychwanegodd ei fod yn cael ei gydnabod fel arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, er i lefarydd ar ran Ceidwadwyr y DU awgrymu nad oedd hynny'n gywir.

Ond ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd yr AC Ceidwadol Suzy Davies fod Mr Davies "erioed, cyn belled ag y gwyddwn, â'r hawl i alw ei hun yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig".

Ychwanegodd nad ydy sylwadau Mr Bebb yn arwydd o ffrae fawr rhwng aelodau yn y Cynulliad a Llywodraeth y DU, a'i bod yn rhagweld y bydd Mr Davies yn dal i arwain y blaid yn y Cynulliad ymhen blwyddyn.