Â鶹ԼÅÄ

Llythyr tri AC Plaid Cymru'n galw am herio Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru ar ddeall fod tri AC Plaid Cymru wedi arwyddo llythyr yn galw am gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid.

Mae Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones wedi gofyn i gyd-aelodau i ystyried cynnig eu hunain fel ymgeiswyr.

Mae'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau ar 4 Gorffennaf.

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru fe ddywedodd Leanne Wood y bydd hi'n .

Dau enw wedi'u crybwyll

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi datgan cefnogaeth i Adam Price fel ymgeisydd posib ar gyfer yr aweinyddiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny wrth raglen Taro'r Post eu bod wedi gofyn wrth Mr Price a fyddai'n fodlon cael ei enwebu'n swyddogol.

Dyw Mr Price heb ymateb hyd yn hyn, meddai Mr Lenny.

Disgrifiad o’r llun,

Y tri AC sydd wedi arwyddo'r llythyr - Sian Gwenllian, Llyr Gruffydd ac Elin Jones

Mae AC blaenllaw arall, Rhun ap Iorwerth am yr arweinyddiaeth, ac mai hi ddylai arwain Plaid Cymru nes o leiaf etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

Mae ffynonellau sy'n agos at Mr Price a Mr ap Iorwerth wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod pwysau cynyddol ar y ddau i herio Ms Wood.

Bydd canghennau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth yn cwrdd yn y 10 diwrnod nesaf i drafod enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw gyfuno i enwebu Mr Price.

Yn ôl ffynonellau mae canghennau'r blaid ar draws Sir Gaerfyrddin wedi ysgrifennu at Adam Price yn erfyn arno i ymgeisio.

Dyw Plaid Cymru ddim wedi ymateb hyd yma.