Â鶹ԼÅÄ

'Synnwyr cyffredin' i newid cyfeiriad ar safonau iaith

  • Cyhoeddwyd
Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae penderfyniad y llywodraeth ynglŷn â'r safonau yn "ychydig o synnwyr cyffredin" medd Meirion Prys Jones

Mae cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dweud fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y safonau iaith i sectorau eraill, fel y sector breifat, yn "ychydig bach o synnwyr cyffredin o'r diwedd".

Yn ôl Meirion Prys Jones, mae creu Comisiwn i'r Iaith Gymraeg yn golygu y bydd "rheoleiddio a hyrwyddo yn mynd law yn llaw gyda'i gilydd mewn corff sy'n gallu gwneud hynny".

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Eluned Morgan, a'u bod yn "ail-gyfeirio adnoddau" oedd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gyflwyno a phlismona'r safonau.

Ond yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r penderfyniad i beidio ag ehangu ar y Safonau Iaith yn gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg "yn ddifrifol".

'Croesawu newid pwyslais'

Dywedodd Meirion Prys Jones nad yw'r "drefn bresennol yn gweithio," a bod Eluned Morgan, drwy greu'r Comisiwn, yn cydnabod nad yw'r llywodraeth yn gallu gwneud y gwaith hyrwyddo.

Mae'r corff ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith hefyd wedi croesawu bwriad y llywodraeth i sefydlu Comisiwn i'r iaith Gymraeg, ac yn "croesawu'r newid pwyslais tuag at hyrwyddo a hybu'r iaith, a gafodd ei esgeuluso yn y blynyddoedd diwethaf".

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Cymru fore Mercher, dywedodd Meirion Prys Jones fod yn rhaid edrych ar y ffordd orau o sicrhau fod yr iaith yn ffynnu, heb gosbi unigolion ar yr un pryd.

"Da ni wedi bod ar daith wirion ers rhyw ddegawd lle mae 'na chwarae gyda'r systemau a'r strwythurau wedi bod.

"Nawr dwi'n meddwl bod rhaid i ni fynd nôl at sefyllfa o realiti lle ma' rheoleiddio a hyrwyddo yn mynd law yn llaw gyda'i gilydd mewn corff sy'n gallu gwneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc yn un corff sy'n hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn eu gweithgareddau

"Dydy'r drefn bresennol ddim yn gweithio, felly mae'n rhaid i ni wella'r drefn, a neud yn siŵr bod pobl yn gallu dewis siarad Cymraeg yn eu cartrefi eu hunain, siarad Cymraeg gyda'u plant, bod 'na fywyd cymdeithasol gyda phlant.

"Be' da ni'n angen gwneud ydy eu cefnogi nhw yn y meysydd 'na lle mae gyda nhw ddiddordeb - cerddoriaeth, technoleg, chwaraeon, y celfyddydau, rheina i gyd - nid canolbwyntio ein hadnoddau ar ddarn bach o'r jigso sef taro cyrff sydd ddim yn cydymffurfio."

'Cydnabod pwysigrwydd addysg'

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Mudiad: "Rydyn ni'n falch iawn bod y llywodraeth am weithredu ar sail egwyddorion cynllunio ieithyddol sy' wedi'u derbyn yn gyffredinol ledled y byd.

"Mae Dyfodol i'r Iaith wedi bod yn pwyso o'r cychwyn am well cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo'r Gymraeg yn gadarnhaol, a chredwn fod angen buddsoddi mewn strwythurau a pholisïau sy'n cyflawni hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Galw am fwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mae Heini Gruffydd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith

"Mae angen gweithio i gynyddu sgiliau ieithyddol, yn ogystal â'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd: y cartref, y gweithle, a'r gymuned.

"Mae'n rhaid ehangu ein gorwelion, ac mae rhaglen o'r fath, sy'n cydnabod pwysigrwydd addysg ac sy'n seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, yn gam sylweddol i'r cyfeiriad iawn."

'Gwanhau hawliau'

Ond mae Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn poeni bod cyfle yn cael ei golli drwy beidio â chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg o ddydd i ddydd.

"I newid ymddygiad pobl rhaid newid agweddau pobl.

"I newid agweddau pobl mae'n rhaid deddfu, ac mae'r gwirionedd hwn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ond mae Eluned Morgan yn dewis anwybyddu hynny," meddai Ms Gwyndaf.

Mae'n dweud bod cwmnïau preifat yn dweud wrth y mudiad iaith nad yw eu darpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn mynd i wella nes bod gorfodaeth arnynt i weithredu.

Ychwanegodd: "Ni 'di bod yn y 'lle ma, hybu a hyrwyddo ar draul hawliau a rheoleiddio. Mae hwn yn gwanhau ein hawliau ni yn ddifrifol.

"Mae'n gwanhau ein hawliau ni i gwyno hefyd."