Â鶹ԼÅÄ

Meirion Prys Jones yn galw am strategaethau mwy 'heriol'

  • Cyhoeddwyd
Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyn brîf weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones

Mae cyn brîf weithredwr Bwrdd yr Iaith wedi dweud nad ydi cynghorau Cymru yn ddigon "uchelgeisiol" gyda'u strategaethau ar gyfer addysg Gymraeg.

Mae Meirion Prys Jones o'r farn bod y drefn bresennol yn "adlewyrchu'r status quo a bod 'na ddiffyg uchelgais yng nghynllun y llywodraeth i annog miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

"Os am filiwn o siaradwyr Cymraeg rhaid chwyldroi'r system addysg" meddai.

"Rhan o'r broblem yw bod y galw'n fwy na'r ddarpariaeth a tydi'r llywodraeth ddim yn awyddus i ymateb i'r galw. Tydi'r drefn sydd gyda ni ar hyn o bryd byth yn mynd i gyrraedd y nod."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y gweinidog yn "barod i herio unrhyw gynlluniau annigonol".

'Angen strategaethau mwy radical'

Yn ystod cyfnod Mr Jones fel Prif Weithredwr yn y 90au fe gyflwynodd Bwrdd yr Iaith strategaethau i gynghorau lleol.

Mae'n dweud nawr bod angen ei newid gyda "strategaethau mwy radical."

Mae'r mudiad, Rhieni dros addysg Gymraeg (RhAG) wedi ymateb drwy ddweud y dylai cynghorau lleol gael "targedau unigol a mesuradwy."

Mae RhAG hefyd yn galw ar y llywodraeth i "arwain y ffordd ar gyfer ceisio cyrraedd y targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud: "Bydd y Llywodraeth yn gwerthuso'r strategaethau yn y flwyddyn newydd. Mae'r Gweinidog, Alun Davies yn barod wedi datgan ei fod yn barod i herio unrhyw gynlluniau annigonol.

"Ni fydd y Llywodraeth yn gwneud unrhyw sylw cyhoeddus nes i'r broses hon fynd rhagddi."