Y deyrnas ranedig?

Beth yw dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig? Ydyn ni'n gweld diwedd gwleidyddiaeth bleidiol ym Mhrydain? Sut fydd pethau'n newid yn sgil Brexit?

Yn ei lyfr newydd, The End of British Party Politics?, mae'r Athro Roger Awan-Scully yn ymdrin â'r pynciau yma, ac fe fydd yn trafod rhain

Siaradodd Yr Athro Awan-Scully gyda Cymru Fyw am y newidiadau sy'n digwydd i wleidyddiaeth gwledydd Prydain.

Yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd, pedair plaid wahanol a enillodd ym mhedair gwlad wahanol y Deyrnas Unedig.

Yn Lloegr, y Ceidwadwyr gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau a seddi; yng Ngogledd Iwerddon, y DUP (Democratic Unionist Party) yn yr un modd; SNP (Scottish National Party) oedd yr enillwyr yn Yr Alban; tra yng Nghymru, am y 26ain Etholiad Cyffredinol yn olynol, y Blaid Lafur ddaeth i'r brig.

Dyma'r ail waith yn olynol i bedair cenedl bleidleisio am bleidiau gwahanol - ond hefyd dim ond yr ail waith erioed. Mae'n rhan o broses ehangach lle mae systemau etholiadol a phleidiol pedair cenedl y Deyrnas Unedig yn ymbellhau oddi wrth ei gilydd.

Mor bell i ffwrdd...

Mae Gogledd Iwerddon wedi bod ar wahân yn wleidyddol ers amser maith. Ond yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd fe welsom y ddwy blaid o'r dalaith sydd â'r cysylltiadau agosaf at brif bleidiau Prydain - yr UUP (Ulster Unionist Party) a'r SDLP (Social Democratic and Labour Party) - yn colli eu seddi yn San Steffan. Yn wleidyddol, mae Ulster mor bell i ffwrdd o weddill y Deyrnas Unedig nag erioed.

Yn Yr Alban, fel yng Nghymru, mae datganoli wedi arwain at ddatblygu sefydliadau a pholisïau penodol, yn ogystal ag arweinyddiaeth, ymysg y pleidiau Prydeinig. Er, mae goruchafiaeth y pleidiau yma wedi ei ddymchwel gan yr SNP, lle mae'r agenda gwleidyddol yn Yr Alban hefyd wedi newid ymhellach oherwydd amlygrwydd y drafodaeth ynglŷn ag annibyniaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn wir, mae Ceidwadwyr Yr Alban wedi cael adfywiad yn y blynyddoedd diweddar oherwydd eu bod wedi cofleidio annibyniaeth (neu o leiaf eu gwrthwynebiad cryf iddo) fel mater canolog wrth ymgyrchu.

Disgrifiad o'r llun, Ydy pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi ffurfio pedair hunaniaeth wleidyddol wahanol?

Hyd yn oed yn Lloegr mae mwy a mwy o dystiolaeth o hunaniaeth benodol a wleidyddol Seisnig yn datblygu ymysg y cyhoedd. Un ymdrech i ymateb i hyn oedd cynnig a ddaeth gerbron San Steffan yn 2015 i sicrhau mai Aelodau Seneddol Seisnig yn unig oedd yn deddfu ar gyfreithiau sydd ond yn effeithio ar Loegr (English Votes for English Laws).

Roedd y prif bleidiau i gyd yn teimlo bod rhaid ymateb i'r dimensiwn Seisnig yn eu maniffestos yn 2017, gyda Llafur, er enghraifft, yn cynnig Gweinidog ar gyfer Lloegr.

Y sefyllfa yng Nghymru

Roedd 'na gyfuniad diddorol o wleidyddiaeth hen a newydd yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 2017. Fe redodd y Ceidwadwyr ymgyrch hen ffasiwn, Brydeinig. Roedd eu maniffesto yn ddim byd ond fersiwn o'r ddogfen Brydeinig wedi'i Chymreigio rhywfaint, tra mai prif wyneb a llais eu hymgyrch oedd Theresa May.

Rôl yr ymgyrch yng Nghymru, yn syml, oedd i gefnogi'r neges o 'arweinyddiaeth gref a chadarn' o'r pencadlys yn Llundain.

I Lafur, roedd hi'n wahanol iawn. Wrth wynebu cyd-destun gwleidyddol Prydeinig oedd, ar gychwyn yr ymgyrch, yn edrych yn anodd iawn, fe geisiodd Llafur Cymru gadw'u pellter.

Fe ddangosodd etholiadau'r Cynulliad yn 2016, hyd yn oed mewn amseroedd anodd, fod gan 'brand' Llafur Cymru gryn dipyn o wydnwch. Dangosodd hefyd fod Carwyn Jones yn parhau i fod yn ymgyrchydd poblogaidd ac effeithlon. Felly yn 2017 fe wnaeth Llafur bopeth i bwysleisio'r brand ac ymgyrch penodol Gymreig.

Roedd y maniffesto Cymreig yn edrych yn dra gwahanol i'r un gyhoeddwyd yn Llundain, ac ni chafodd Jeremy Corbyn ei grybwyll unwaith yn narllediadau etholiadol y blaid yng Nghymru - gyda Carwyn Jones yn ymddangos ym mhob un.

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones oedd wyneb ymgyrch Llafur yng Nghymru yn ystod Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2017, nid Jeremy Corbyn

Yn dilyn llwyddiant ymgyrch y Blaid Lafur, a methiant cymharol yr un Geidwadol, fe alwodd rhai aelodau blaenllaw o'r Torïaid yng Nghymru am fwy o awtonomiaeth, ac arweinyddiaeth gliriach Gymreig - ar fodel Llafur Cymru neu'r Ceidwadwyr yn Yr Alban.

Mae Brexit yn bygwth tynnu'r DU yn fwy ar wahân yn wleidyddol. Mae rhaniadau wedi bod ar draws y cenhedloedd o'r cychwyn: fe bleidleisiodd dwy wlad i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod y ddwy arall wedi pleidleisio i adael.

Ers hynny mae drwgdeimlad sylweddol wedi bod rhwng Llywodraeth Prydain a'r llywodraethau datganoledig dros ffurf gyffredinol Brexit a hefyd anghydfod ynglŷn â goblygiadau'r EU Withdrawal Bill ar ddatganoli.

Mae hyn i gyd o bwys oherwydd yn y pen draw system wleidyddol yw democratiaeth sy'n ein huno drwy ein gwahaniaethau.

Weithiau ry'n ni'n cael yr hyn 'dyn ni eisiau, yn aml dy'n ni ddim, ond ry'n ni gyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y broses.

Ond yn y DU, i raddau mwy helaeth, does gennym ni bellach ddim un sgwrs wleidyddol, neu'r un set o ddewisiadau yn ystod etholiadau.

Mae 'na lai a llai i glymu pobl at ei gilydd i ymdeimlad o Deyrnas Unedig sydd â chymuned wleidyddol unedig. Gall ddiwedd gwleidyddiaeth bleidiol Brydeinig olygu diwedd Prydain ei hun.