Â鶹ԼÅÄ

Cymry'n 'fwy cadarnhaol' na Saeson am ddyfodol eu gwlad

  • Cyhoeddwyd
cefnogwr cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl Cymru'n teimlo'n fwy positif am ddyfodol eu gwlad na'r rheiny yn Lloegr, yn ôl yr arolwg

Mae Cymry'n teimlo'n fwy cadarnhaol am ddyfodol eu gwlad na phobl yn Lloegr, yn ôl arolwg ar gyfer y Â鶹ԼÅÄ.

Dywedodd traean pobl Cymru (33%) fod dyddiau gorau'r genedl eto i ddod, o'i gymharu ag 20% oedd yn credu fod Cymru'n well yn y gorffennol.

Yn Lloegr fodd bynnag, roedd bron i hanner (49%) yn meddwl bod pethau'n well o'r blaen, gyda dim ond 17% yn disgwyl i'r wlad wella yn y dyfodol.

Mae Albanwyr hefyd yn fwy cadarnhaol na'r Saeson, gyda 29% yn dweud bod pethau'n arfer bod yn well, a 36% yn credu y byddai pethau'n gwella.

Cafodd yr arolwg .

Hunaniaeth

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ganfod bod 79% yn dweud eu bod yn ystyried yn gryf eu bod yn Brydeinig, a 62% yn ystyried yn gryf eu bod yn Gymry.

Un esboniad posib am y gwahaniaeth hwnnw yw canran sylweddol poblogaeth Cymru sydd wedi'u geni y tu allan i'r wlad, gyda 21% yn cael eu geni yn Lloegr.

Doedd yr arolwg ddim yn dangos llawer o wahaniaeth rhwng pleidleiswyr Gadael ac Aros yn refferendwm yr UE pan oedd hi'n dod at deimlo'n Gymreig.

Ond roedd y rheiny o blaid Brexit ychydig yn fwy tebygol o deimlo'n Brydeinig, a llai tebygol o deimlo'n Ewropeaidd.

Etholwyr Plaid Cymru oedd fwyaf tebygol ymhlith y prif bleidiau gwleidyddol o ystyried yn gryf eu bod yn Gymry, ond roedd 71% hefyd yn dweud eu bod yn teimlo'n Brydeinig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae data'r Cyfrifiad diwethaf yn awgrymu bod pobl hÅ·n yng Nghymru'n fwy tebygol o deimlo'n Brydeinig na phobl ifanc

Yn ôl Bethan Harries, academydd o Brifysgol Manceinion sydd wedi astudio data'r Cyfrifiad, mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn ymddeol i Gymru yn un esboniad dros pam fod y genhedlaeth hŷn yn llai tebygol o ystyried eu hunain yn Gymry.

Mae pobl ifanc, meddai, "yn fwy tebygol o fod yn yr ysgol, ymwneud â gweithgareddau diwylliannol a dysgu Cymraeg".

"Efallai bod hynny'n eu gwneud nhw'n fwy tebygol o weld eu hunain fel Cymry.

"Ble 'dyn ni'n gweld y newid mwyaf yw pan 'dych chi'n cyrraedd 60 oed. Ar y pwynt yna, mae canran llawer llai o'r boblogaeth yn dweud eu bod yn 'Gymreig yn unig', ac yn gweld eu hunain yn Gymreig a Phrydeinig."

Yng Nghwpan y Byd 2018 yn Rwsia eleni, dywedodd 18% o bobl yng Nghymru y bydden nhw'n cefnogi Lloegr, 6% y bydden nhw'n cefnogi gwrthwynebwyr Lloegr, a dros hanner (53%) nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y gystadleuaeth.

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod y cyhoedd yn meddwl mwy o wleidyddion yng Nghaerdydd nac yn San Steffan, gyda 30% yn dweud fod ACau yn adlewyrchu eu pryderon o'i gymharu â 10% o ASau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd 18% o bobl Cymru y bydden nhw'n cefnogi Lloegr yng Nghwpan y Byd, gyda 6% yn bwriadu cefnogi eu gwrthwynebwyr

Fodd bynnag, doedd 79% ddim yn teimlo bod ASau yn adlewyrchu eu pryderon, gyda 56% hefyd yn dweud yr un pethau am Aelodau Cynulliad.

Ymhlith cefnogwyr y pleidiau gwahanol, roedd etholwyr Llafur a Phlaid Cymru'n fwy tebygol na rhai'r Ceidwadwyr o ddweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am nifer o benderfyniadau, yn hytrach na Llywodraeth y DU.

Yn gyffredinol, roedd mwy o bobl yn teimlo y dylai penderfyniadau dros bynciau fel addysg, iechyd, budd-daliadau, trethi busnes ac ynni niwclear gael eu gwneud yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain.

Ar bynciau fel treth incwm ac arfau niwclear, fodd bynnag, roedd mwy yn credu y dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yn San Steffan.

Dywedodd 71% o Geidwadwyr mai Llywodraeth y DU ddylai benderfynu beth yw lefel treth incwm, o'i gymharu â 22% a ddywedodd mai Llywodraeth Cymru ddylai wneud hynny - er bod y Torïaid yn San Steffan wedi datganoli'r grym hwnnw.

Cafodd yr arolwg o 1,036 o oedolion yng Nghymru ei wneud gan YouGov rhwng 25 Ebrill a 1 Mai.