Â鶹ԼÅÄ

Sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae galwad i sefydlu senedd ieuenctid i Gymru wedi cael cefnogaeth gan holl bleidiau'r Cynulliad.

Mae'r Llywydd Elin Jones wedi dweud ei bod am weld senedd ieuenctid yn cael ei sefydlu "yn gynnar yn y tymor Cynulliad hwn".

Cafodd cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig ei gefnogi gan y pleidiau ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Darren Millar AC: "Mae sefydlu senedd ieuenctid gydag adnoddau da yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth Cymru.

"Mae'r sefydliad gwleidyddol yn rhannu cyfrifoldeb i sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo digon o symbyliad i fynd i bleidleisio."

Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnig y senedd ieuenctid i gymryd lle prosiect Y Ddraig Ffynci a gaeodd yn 2014.

"Dywedodd Elin Jones AC: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Plant a'r Ymgyrch dros Sefydlu Cynulliad Ieuenctid i Gymru i drafod y ffordd orau ymlaen.

"Rhaid i ni fynd â phobl ifanc gyda ni wrth i ni wneud hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru: "Dylai unrhyw gorff etholedig ieuenctid eistedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru fel y corff democrataidd dros Gymru."

Ychwanegodd y bydd gweinidogion yn darparu £1.8 miliwn o gyllid i'r corff Plant yng Nghymru er mwyn rhedeg prosiect 'Cymru Ifanc' sy'n galluogi i filoedd o bobl ifanc drafod gyda gweinidogion a gwneuthurwyr polisi, a dylanwadu ar eu gwaith.

Yn ystod y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad, fe wnaeth y Ceidwadwyr addo torri cyflogau gweinidogion er mwyn talu am senedd i'r ifanc.