Â鶹ԼÅÄ

Yr Eisteddfod yn lansio partneriaeth â'r gymuned LGBT

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod LGBT

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn lansio prosiect newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r profiad LGBT drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Mas ar y Maes yn bartneriaeth rhwng y gymuned lesbiaidd, hoyw, deuryw a thrawsryw (LGBT), elusen Stonewall Cymru a'r Eisteddfod.

Fe fydd y cynllun, sy'n gobeithio "cynyddu gwelededd a phresenoldeb" materion LGBT, yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nghlwb Minskys yng Nghaerdydd am 18:00 nos Iau.

Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal yn y brifwyl ym Mae Caerdydd ym mis Awst, gyda digwyddiadau megis trafodaethau, perfformiadau a darlleniadau.

Daw'r cyhoeddiad union 30 mlynedd i'r diwrnod ers cyflwyno Adran 28 - rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 oedd yn gwahardd hyrwyddo materion LGBT gan awdurdodau lleol a sôn amdano mewn ysgolion.

'Gŵyl groesawgar'

Dywedodd Gwenllïan Carr o'r Eisteddfod Genedlaethol bod y prosiect yn "dangos bod yr Eisteddfod yn ŵyl groesawgar a chynhwysol i bawb sy'n byw yng Nghymru heddiw.

"Dyma bartneriaeth sy'n cynnig gogwydd gwahanol i'n gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol, a'r gobaith yw y bydd hyn yn annog rhagor o'r gymuned LHDT yng Nghymru i ddod i'r Eisteddfod, ac i sylweddoli pwysigrwydd a pherthnasedd yr ŵyl i bawb yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal yn y brifwyl ym Mae Caerdydd fel rhan o'r prosiect

Grŵp llywio o'r gymuned LGBT yng Nghymru sydd wedi bod yn arwain ar y gwaith o greu rhaglen Mas ar y Maes, a'r gobaith yw y bydd yn "dod yn rhan flynyddol o'r ŵyl".

Dywedodd cadeirydd y grŵp, Adam Price: "Mae 'na ddegau o filoedd o siaradwyr Cymraeg sydd yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws - ac eto prin mae eu cyfraniad wedi cael ei ddathlu o fewn ein diwylliant hyd yma.

"Ddylai neb yn ein Cymru ni heddiw deimlo pwysau i ddewis rhwng eu Cymreictod a phwy maen nhw'n caru.

"Pwrpas Mas ar y Maes felly yw meithrin ymwybyddiaeth a dathlu'r profiad LHDT drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddod â'r ddwy gymuned ynghyd.

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol - fel ein prif ŵyl ddiwylliannol - yn llwyfan arbennig ar gyfer gwireddu'r ddelfryd honno."