Â鶹ԼÅÄ

Anelu am Eisteddfod ddi-blastig?

  • Cyhoeddwyd
plastig un tro

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bwriad i dorri lawr yn sylweddol ar eu defnydd o blastig ar Faes y Brifwyl yng Nghaerdydd eleni.

Bydd hynny'n arwain at wahardd plastig un-tro yn gyfan gwbl o Eisteddfod Sir Conwy yn 2019 ac ymlaen.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi hyn yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod ddydd Sadwrn i gyd-fynd â'r ymgyrch #drastigarblastig dros y penwythnos.

Mae'r ŵyl wedi cysylltu gyda'u harlwywyr a stondinwyr i gyd er mwyn gwahardd gwellt plastig ar gyfer diodydd, ac mae'r trefnwyr hefyd yn gweithio gyda darparwyr y bariau, y Brodyr Stedman, ar brosiect uchelgeisiol sy'n gwahardd y defnydd o wydrau un-tro yn y bariau a chyflwyno gwydrau y gellir eu defnyddio drosodd a throsodd er budd yr amgylchedd.

Cynhelir yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst.

'Ar flaen y gad'

Bydd yr ŵyl hefyd yn cynhyrchu cwpanau paned y gellir eu defnyddio eto ynghyd â photeli dŵr ar gyfer plant, mewn cynllun radical a fydd yn torri i lawr yn sylweddol ar y defnydd o blastig un-tro, ac mae'r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, yn galw ar ymwelwyr i gefnogi'r prosiect ac i edrych ar eu defnydd hwythau o blastig wrth baratoi i ymweld â'r Eisteddfod eleni.

Dywedodd Mr Roberts: "Mae'n deg dweud ein bod ni wedi bod ar flaen y gad ym maes ailgylchu am flynyddoedd lawer, ac wedi gweithio'n galed er mwy ailgylchu cymaint â phosibl o wastraff o bob math.

"Er ein bod yn ddiolchgar iawn i'n hymwelwyr am ein helpu i ailgylchu cymaint dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cwestiynu pam fod cymaint o boteli a gwydrau plastig yn gorfod cael eu hailgylchu.

"Felly, ein bwriad wrth gyflwyno'r cynllun hwn yw mynd cam ymhellach a thorri i lawr ar y plastig un-tro sydd ar y Maes, a bydd hyn yn ein helpu ni i warchod yr amgylchedd.

"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol i ddarparwyr y bariau ac i ninnau, ond rydym yn teimlo'n gryf bod rhaid i ni fynd i'r afael â'r defnydd gormodol o blastig, a gobeithio y bydd gwyliau eraill Cymru'n dilyn yr un trywydd â ni yn y dyfodol.

"Mae cynaladwyedd yn bwysig iawn i ni ac i'n partneriaid, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dŵr Cymru am eu cefnogaeth unwaith eto eleni yn gosod gorsafoedd dŵr yfed rhad ac am ddim o amgylch y Maes. Bydd hyn yn galluogi ymwelwyr i ail-lenwi'u poteli pwrpasol drosodd a throsodd yn ystod eu hymweliad â'r ŵyl.

"Wrth gwrs, bydd rhai pobl yn awyddus am lymaid gwahanol neu gryfach hyd yn oed, a thrwy'r bartneriaeth gyda'r darparwyr bariau, byddwn yn cyflwyno gwydrau y gellir eu defnyddio eto. Bydd ymwelwyr yn talu £1 am y gwydr wrth archebu'u diod cyntaf, ac yna'n ei ddychwelyd i'r bar am wydr glân yn rhad ac am ddim am weddill y dydd. Mae croeso i ymwelwyr gadw'u gwydr ar y diwedd.

"Rydym eisoes wedi gwahardd gwellt plastig ac yn annog ein harlwywyr a'n stondinwyr i edrych ar wellt papur ar gyfer yr ŵyl eleni ac i'r dyfodol.

"Dyma flwyddyn gyntaf cynllun uchelgeisiol sy'n arwain at wahardd y defnydd o blastig un-tro yn gyfangwbl ar Faes yr Eisteddfod. Rydym yn hollol ymroddedig i warchod yr amgylchedd, ac yn galw ar ein hymwelwyr i ymuno gyda ni er mwyn i ni wireddu'r cynllun hwn yn llwyddiannus."

Mae'r Eisteddfod yn cefnogi prosiect yr AIF (Association of Independent Festivals) sy'n ymgyrchu er mwyn gwahardd plastig un-tro mewn gwyliau ar draws Prydain erbyn 2021.