Awduron adroddiad Tawel Fan 'ddim yn hoffi'r teuluoedd'

Disgrifiad o'r llun, Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd "camdriniaeth sefydliadol" yn uned iechyd meddwl Tawel Fan

Doedd awduron adroddiad ar honiadau o gam-drin yn uned iechyd meddwl Tawel Fan "ddim yn hoffi" y teuluoedd wnaeth yr honiadau, medd un Aelod Cynulliad.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth ymchwiliad i'r casgliad nad oedd 'na gamdriniaeth sefydliadol wedi bod yn ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, er eu bod yn derbyn bod yna fethiannau.

Ond mae Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros ogledd Cymru, yn mynnu ei bod hi'n bwysig fod y teuluoedd yn cael eu credu.

Mae'r sefydliad a gynhyrchodd yr adroddiad wedi gwrthod y feirniadaeth.

Cafodd yr adroddiad ei drafod gan wleidyddion yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Yno, ymddiheurodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, am y methiannau a gafodd eu cofnodi yn yr adroddiad.

Disgrifiad o'r llun, Ymddiheurodd yr ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething am y methiannau

Roedd yr ymchwiliad, a gafodd ei gynnal gan HASCAS (Health And Social Care Advisory Service) yn gwrthddweud ymchwiliad cynharach gan Donna Ockenden, oedd yn honni fod cleifion yn yr uned yn Sir Ddinbych wedi eu cadw "fel anifeiliad" cyn iddi gau yn 2013.

Daeth yr ymchwiliad diweddaraf i'r casgliad fod canfyddiadau Ockenden wedi eu seilio ar dysgiolaeth anghyflawn, oedd wedi ei gamddehongli a'i gymryd o'i gyd-destun, ac a oedd wedi ei seilio ar wybodaeth gamarweiniol.

Roedd yr adroddiad yn honni fod rhai o'r teuluoedd wnaeth yr honiadau wedi addasu eu profiadau, a bod yr ymchwilwyr wedi wynebu agwedd elyniaethus ganddyn nhw.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llyr Gruffydd AC fod rhannau o'r adroddiad yn bwrw amethuaeth ar y teuluoedd

"Y ffordd y darllenais i e, doedd y bobl oedd yn ysgrifennu'r adroddiad jest ddim yn licio'r teuluoedd," meddai Mr Gruffydd mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd.

"Mae'r adroddiad yn frith o frawddegau sy'n taflu amheuaeth ar ddilysrwydd eu pryderon, am y ffordd y deliodd teuluoedd gyda hyn a'u hymddygiad, mewn pennod a oedd yn brofiad dirdynnol o fewn eu teuluoedd.

'Patrwm'

"Pan edrychwch chi ar rai o'r sgandalau mawr sydd wedi torri yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dros y degawd diwethaf - Hillsborough, achosion gangiau Rotherham a Rochdale ac eraill, mae yna batrwm cyson o beidio â chredu'r dioddefwyr."

"Fy mhle i yw i'r teuluoedd hyn gael eu credu, gan fod hanes yn dweud wrthon ni pan nad ydyn nhw'n cael eu credu, mae camgasgliadau yn cael eu colli."

Mae rhan o'r adroddiad yn codi pryderon am "ddiogelwch seicolegol" aelodau o'r teuluoedd a fynychodd gyfarfodydd o Grŵp Teuluoedd Tawel Fan.

"Cafodd y pryderon eu hatgyfnerthu gan y galwadau ffôn a dderbyniodd yr ymchwilwyr gan nifer o aelodau'r grŵp yn union ar ôl y cyfarfodydd misol, ynghyd â lefelau ymosodol a gelyniaeth a welwyd yn uniongyrchol gan aelodau'r Panel Ymchwilio a oedd yn bresennol," medd yr adroddiad.

Awgrymodd Mr Gruffydd fod y rhan yma o'r adroddiad yn bwrw amheuaeth ar y teuluoedd.

'Hollol anghywir'

Dywedodd prif weithredwr HASCAS, Dr Androulla Johnstone: "Mae'n hollol anghywir i awgrymu fod yr ymchwilwyr proffesiynol 'ddim yn hoffi teuluoedd' y cleifion ar ward Tawel Fan.

"Dydy ein adroddiad ddim yn taflu amheuaeth ar ddilysrwydd pryderon y teuluoedd, yn wir y mae'n atgyfnerthu nifer o'u pryderon," meddai.

"Mae'n bwysig nodi fod hwn yn adroddiad beirniadol iawn."