Galw am degwch ariannol i bobl gafodd waed heintiedig

Ffynhonnell y llun, SPL

Dylai pobl yng Nghymru sy'n dioddef yn sgil y sgandal trallwysiadau gwaed heintiedig gael yr un lefel o gefnogaeth ariannol sy'n cael ei roi yn Yr Alban, yn ôl cadeirydd elusen Haemophilia Wales.

Mae Lynne Kelly yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi'r taliadau ariannol yn achos tua 60 o bobl a gafodd eu heintio gyda hepatitis C a HIV.

Yn Yr Alban, mae unigolion yn derbyn hyd at £37,000 y flwyddyn.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau i gydweithio'n agos gyda Haemophilia Wales.

Bu farw o leiaf 2,400 o bobl yn y DU - tua 70 yn Gymry - ar ôl cael gwaed wedi'i heintio â hepatitis C a HIV gan roddwyr o dramor yn y 1970au a'r 1980au.

'Dan anfantais'

Mae Haemophilia Wales yn amcangyfrif y byddai talu symiau cyfatebol i'r hyn y gwnaeth Llywodraeth Yr Alban yn 2018-19 yn costio llai na £1m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.

Dywed Ms Kelly bod gofyn i'r sefyllfa newid yng Nghymru gan fod pobl sy'n byw gyda'r ddau feirws "dan anfantais".

"Yn achos pobl wedi'u heintio gyda'r ddau arall rydym yn galw am gynnydd yn eu taliadau - os maen nhw'n gleifion cymal 2 sy'n golygu eu bod eisoes â sirosis yr afu, mae angen codi'r taliadau o £17,500 y flwyddyn i £27,000 fel Yr Alban.

"Yn achos pobl gyda HIV a Hepatitis C rydym am i Lywodraeth Cymru ddilyn yr esiampl yn Yr Alban a chodi taliadau o £21,500 neu £34,500, gan ddibynnu ar eu cyflwr, i £37,000.

"Rydym yn cwrdd â'r Llywodraeth wythnos nesaf... maen nhw wedi bod yn gydymdeimladol o'r dechrau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r trefniadau mewn gwledydd eraill a byddwn ni'n parhau i gydweithio'n agos gyda Haemophilia Wales ac eraill i ddatblygu ein cefnogaeth i bobl sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru."