Â鶹ԼÅÄ

Croesawu ymchwiliad i 'sgandal' gwaed wedi'i heintio

  • Cyhoeddwyd
gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwleidyddion wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r defnydd o waed heintiedig o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Fe gyhoeddodd Theresa May brynhawn Mawrth y bydd ymchwiliad i'r "sgandal", wnaeth ladd 70 o bobl yng Nghymru yn 1970au a'r 1980au.

Fe ddatblygodd miloedd o bobl hepatitis C a HIV ar ôl cael gwaed oedd wedi ei heintio gan roddwyr o dramor.

Dywedodd AC Llafur, Julie Morgan, bod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych i'r teuluoedd".

Fe ddywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, ei bod hi'n "hanfodol bod dioddefwyr... yn cael gwybod y gwir".

'Taith hir'

Yn gynharach eleni, am ymchwiliad o'r fath.

Ms Morgan yw cadeirydd y grŵp, ac yn sgil y cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd ei bod yn gobeithio y caiff teuluoedd y dioddefwyr atebion.

"Maen nhw wedi bod ar daith hir, o gael gwybod fel unigolion a theuluoedd ar y cychwyn eu bod wedi derbyn gwaed heintiedig... i ddelio â'u hiechyd yn gwaethygu, i frwydro am iawndal", meddai.

"Mae'r cyhoeddiad y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn newyddion gwych i'r teuluoedd. Dwi'n gobeithio y gwnaiff hyn eu helpu i gael yr atebion y maen nhw eu hangen o'r diwedd".

Disgrifiad,

Liz Saville-Roberts AS yn croesawu ymchwiliad gwaed i waed heintiedig

Dywedodd Ms Saville-Roberts, wnaeth arwyddo llythyr at Ms May yn galw am ymchwiliad, ei bod hi hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae'n hanfodol bod dioddefwyr y sgandal hon yn cael gwybod y gwir am beth aeth o'i le a bod cyfiawnder i farwolaethau 2,400 [ar draws y DU].

"Mae'n hen bryd am ymchwiliad ond mae'n hanfodol bod ei ystod yn ddigon eang a bod rhanddeiliaid yn cael rhan yn ei lunio."

Dywedodd llefarydd ar ran Ms May mai tystiolaeth newydd sbardunodd y penderfyniad i gynnal ymchwiliad.

Fe y bydd cleifion sydd wedi eu heffeithio gan waed heintiedig yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol.