Â鶹ԼÅÄ

Lles meddyliol da plant angen bod yn 'flaenoriaeth'

  • Cyhoeddwyd
Merch yn ypsetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen roi'r 'sgiliau' a'r 'hyder' i blant a phobl ifanc fod yn gryf yn emosiynol meddai'r adroddiad

Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer plant a phobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, er mwyn osgoi neu leihau "trallod diangen", medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Dyma yw prif argymhelliad adroddiad sy'n dweud bod angen gweithredu "ar frys".

Yn ôl yr adroddiad, byddai peidio â gweithredu yn "bygwth cynaliadwyedd gwasanaethau mwy arbenigol i'r rhai sydd â salwch mwy difrifol".

Tra bod ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cydnabod bod yna welliannau ers 2014 i'r gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol (CAMHS), dyw'r newidiadau ddim yn mynd ddigon pell.

Y casgliad yw bod mwy i'w wneud fel bod y bobl sydd angen y cymorth mwyaf yn ei gael mewn lleoliad priodol ac mewn da bryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad yn fanwl.

Pwrpas yr ymchwiliad?

Cafodd yr ymchwiliad ei lunio er mwyn craffu ar y gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar sy'n cael eu cynnig i blant a phobl ifanc.

Y casgliad oedd bod angen gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ddigon gwydn ac yn feddyliol iach.

Mae'r pwyllgor yn dweud bod hefyd angen mwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac y dylai'r agweddau hyn fod yn "flaenoriaeth genedlaethol" i'r llywodraeth.

Ymysg yr argymhellion mae sicrhau:

  • Bod iechyd emosiynol a meddyliol yn rhan o'r cwricwlwm addysg newydd;

  • Bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc;

  • Bod adnoddau i ysgolion ddod yn ganolfannau cymunedol o gefnogaeth ar draws sectorau.

'Tri phlentyn ym mhob dosbarth'

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth gyffredin broblem iechyd meddwl.

"Erbyn y bydd plentyn yn 14 oed, bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau.

"Er mwyn atal y llif, mae angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a gaiff ei roi i gefnogi gwydnwch a lles emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru."

Rhybudd yr adroddiad yw y gallai peidio â gweithredu arwain at fwy o alw ar wasanaethau arbenigol, all wedyn olygu nad ydynt yn gweithredu mor effeithiol.

Disgrifiad,

Rhaid blaenoriaethu iechyd meddyliol plant, medd Llyr Gruffydd, aelod o'r pwyllgor.

Agwedd arall yr ymchwiliad oedd edrych ar sefyllfa bresennol CAMHS, a hynny flynyddoedd ers yr ymchwiliad blaenorol ar y mater.

Yn 2014, y casgliad oedd bod gormod o blant a phobl ifanc yn cael eu cyfeirio at wasanaethau oedd yn anaddas i'w hanghenion.

Er bod y pwyllgor y tro yma yn dweud bod gwelliannau wedi eu gwneud, dyw'r sefyllfa ddim wedi newid digon.

Dywed yr adroddiad: "Yn syml iawn, nid yw'r darnau yn eu lle i alluogi plant a phobl ifanc i gael cymorth y tu allan i'r lleoliadau mwyaf arbenigol.

"Bedair blynedd ers yr ymchwiliad diwethaf, mae hyn yn annerbyniol a rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys."

Argymhellion eraill

27 argymhelliad arall sydd yn y ddogfen sy'n cynnwys:

  • Bod cynllun gweithredu cenedlaethol yn cael ei lunio ar gyfer therapïau seicolegol;

  • Bod canllawiau yn cael eu darparu i ysgolion ynglÅ·n â thrafod hunanladdiad a hunan-niweidio;

  • Edrych ar y cynlluniau lles emosiynol a meddyliol sy'n bodoli ac argymell un dulli ysgolion ar draws Cymru.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o'r gwelliannau yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y blynyddoedd diweddar.

"Byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus ac yn ymateb ymhen amser."