Â鶹ԼÅÄ

Recriwtio staff iechyd meddwl i weithio mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Hogyn ysgolFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd arbenigwyr iechyd meddwl yn cael eu recriwtio yn benodol i weithio mewn ysgolion fel rhan o gynllun newydd gwerth £1.4m.

Mewn tair ardal wahanol bydd y staff yn gweithio law yn llaw gyda athrawon fel rhan o'r cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru.

Byddant yn cynnig cymorth i ddisgyblion sy'n isel eu hysbryd; yn bryderus neu'n bygwth niweidio'u hunain.

Y bwriad ydy cynnig help yn gynnar mewn ysgolion er mwyn atal unrhyw broblemau mwy difrifol wrth iddyn nhw dyfu'n hÅ·n.

Cynllun dwy flynedd

Y nod yw lleihau'r baich ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).

Cafodd 19,000 o unigolion eu cyfeirio at CAMHS o fewn cyfnod o 12 mis tan fis Hydref y llynedd. 16,000 oedd y ffigwr ar gyfer y 12 mis blaenorol.

Ond roedd un ymhob tri o unigolion ddim wedi eu cyfeirio at y gwasanaeth addas meddai arbenigwyr CAMHS ar draws Prydain yn 2016.

Bydd y cynllun peilot, fydd yn dechrau yn niwedd 2017 ac yn gorffen yn 2020, yn cael ei weithredu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y gogledd ddwyrain, y de ddwyrain ac yng Ngheredigion.

Yn yr ysgolion bydd yr arbenigwyr iechyd yn rhoi cyngor a help i athrawon wella eu dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl ac unrhyw broblemau emosiynol.

Bydd yr arbenigwyr iechyd hefyd yn gwneud yn siŵr bod y plant neu bobl ifanc yn cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol os yw problemau'r unigolyn yn rhai nad yw'r athro yn medru ei helpu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi Lea yn teimlo y bydd yr arbenigwyr iechyd yn gwneud gwahaniaeth

Fe ddechreuodd Naomi Lea, 19 oed ddioddef o orbryder a chael pyliau o banig pan oedd hi'n 14.

"Odd e tua amser TGAU ac o'n i yn dioddef o lot o stress ac o'n i methu aros yn y dosbarth. Odd e yn neud i fi deimlo yn rili unig. Nes i ddim siarad gyda neb amdano fe am dros flwyddyn.

"O'n i eisiau dweud wrth rywun ond o'n i yn poeni sut odd pobl mynd i ymateb i be o'n i yn dweud."

"Odd y pwysau yn dod o bob ongl, teulu, ffrindiau, ysgol bob dim. Y person cyntaf wnes i sôn wrth oedd Childline. Ac o'n i methu siarad gyda neb arall wyneb yn wyneb ac o'n i jest ddim yn teimlo bod y cymorth yna."

Cafodd Naomi therapi am dros flwyddyn gan CAMHS ac mae erbyn hyn yn astudio seicoleg yn y brifysgol.

Mae Ysgol Uwchradd Crughywel yn cynnig ystod o gynlluniau i helpu disgyblion fel ymwybyddiaeth ofalgar.

Mae'r athrawes Gymraeg ac Arweinydd Cynnydd yn yr ysgol, Kate Jones yn croesawu'r cyhoeddiad.

Disgrifiad,

Yn ôl Kate Jones mae'r pwysau ychwanegol yn gallu cael effaith niweidiol ar ddisgyblion

"Weithiau mae rhestrau hir i gael gweld pobl. Nawr da ni yn codi ymwybyddiaeth ymhlith athrawon, rhieni a theuluoedd achos ma nhw yn gweld sgil effeithiau'r problemau.

"Maen nhw yn cael lot o help yn yr ysgol ac o fewn yr ysgol. Ond 'da ni weithiau yn teimlo fel sir gyfan ac fel Cymru gyfan 'da ni ddim yn ateb y galw ac yn helpu nhw'n llawn fel dylen ni fod yn gwneud."

Dywedodd llefarydd NSPCC Cymru/Wales bod cael help yn gynnar yn hollbwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r disgyblion yma yn dweud bod yna bwysau ar bobl ifanc o bob cyfeiriad

"Dyw pobl ifanc ddim bob amser yn gallu dod o hyd i help proffesiynol yn gyflym, cymorth maen nhw wir angen.

"Ond mae cynnydd wedi ei wneud yng Nghymru ac mae'r cyhoeddiad yma yn gam arwyddocaol ymlaen er mwyn cefnogi disgyblion a staff sydd yn eu dysgu."

Lleihau pwysau

Yn ôl Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, mae'r peilot yn mynd i helpu i atal problemau mwy difrifol yn y dyfodol.

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn gwneud gwasanaethau cymorth yn fwy hygyrch, yn mynd i'r afael â straen sy'n gysylltiedig ag ysgol, ac yn codi'r pwysau oddi ar CAMHS arbenigol drwy leihau cyfeiriadau anaddas.

"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn hwyluso diwylliant ehangach sy'n hyrwyddo ac sy'n gwerthfawrogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol yn ein hysgolion."

Ar ddiwedd y ddwy flynedd bydd canlyniadau'r cynllun yn cael eu hasesu gan y llywodraeth a mesurau yn cael eu hystyried i'r dyfodol.