Ateb y Galw: Y cyflwynydd radio Tommo

Andrew 'Tommo' Thomas, cyflwynydd radio ar Nation Radio, a chyn-gyflwynydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Stephen Jones yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio cael bonclust am regi wrth fy mam. Do'n i ddim yn gwybod beth oedd ystyr y gair, o'n i wedi clywed rhywun yn ei weud. Jiw jiw - ges i glust goch!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'n i wedi cwympo mewn cariad gyda Samantha Fox. Dwi'n cofio prynu pillow cases o bapurau fel News of the World, gyda llun Sam Fox arno fe!

Disgrifiad o'r llun, Roedd gan Samantha Fox nifer o ffans yn ystod yr wythdegau... Tommo yn un ohonyn nhw!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Es i mas i siopa un bore, a sylweddoli mod i mas yn fy slipers, a gobeithio fod neb am sylwi! Dwi wedi ei wneud e cwpwl o weithie heb feddwl - falle ma' henaint yw e. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn trendy - bŵts hen ddyn y'n nhw!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan farwodd fy nhad i fis Medi.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n pigo gwinedd fy nhraed i a'u rhoi yn lwmpyn ar ochr y soffa...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gartre' - Aberteifi - dwi'n dwli byw 'na, a 'na le mae fy nheulu i gyd.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Cymru 4-0 yn erbyn Moldova yn eu gêm gartref gyntaf ym mis Medi 2016 ar ôl eu llwyddiant hanesyddol yn nghystadleuaeth Euro 2016 yn Ffrainc

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y gêm gyntaf pan weithiais i yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel cyhoeddwr, yn y gêm gyntaf ar ôl i dîm pêl-droed Cymru ddod adre' o Ffrainc. Gofynnais i i bawb godi i ganu'r anthem, a llefes i yn y microffôn! Mor emosiynol!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hyderus, sbort, joio byw!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Y ffilm yw Pulp Fiction. Y llyfr yw Kestrel for a Knave. Dwi'n cofio ei ddarllen e yn yr ysgol uwchradd. O'dd pawb yn y dosbarth yn darllen un dudalen mas yn uchel, ac o'dd 'chydig o regi ar fy nhudalen i, a 'nes i ganolbwyntio lot ar y gair yna, gan mod i'n cael ei ddweud e!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Elvis Presley - i ddangos e sut i ganu...!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n ddyn tawel. 'Sai'n becso am bethe ond wastad yn whare meddylia. Dwi'n dawel... oddi ar y meic!

O Archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cymryd benthyciad o filiwn o bunne a'i roi e i nheulu i!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Geiriau gan Ail Symudiad. Nhw yw fy hoff fand Cymraeg - y band gore yng Nghymru. Pan o'n i'n ifancach, o'n i'n tyfu lan yn gwrando arnyn nhw, a phan es i i'r ysgol uwchradd, o'n i'n gwneud drumsticks iddyn nhw mas o dowel heb i'r athro wybod! Maen nhw arno arian i mi - ges i 'rioed fy nhalu!

Disgrifiad o'r llun, Ail Symudiad yn perfformio ar raglen Tommo yn Sioe Sir Benfro

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Rhaid i mi gael madarch garlleg gynta'. Yna fajitas - dwi'n dwli ar fwyd Mecsicanaidd. Yna hufen iâ fanila - dim byd 'dag e.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy ngwraig, fy ffrind gore i - i ddeall pam ei bod hi'n rhoi row i mi o hyd, ac i sylweddoli faint o idiot ydw i!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Betsan Powys