Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Heledd Cynwal

  • Cyhoeddwyd
Heledd

Heledd Cynwal sy'n cael ei holi yr wythnos hon ar ôl iddi hi gael ei henwebu gan

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded rownd a rownd mewn cylch yn canu "Cyfod aderyn bach" gan Ac Eraill, treuliodd y carped wi'n credu.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Cofio crush cyntaf oedd Stefan Edberg y chwaraewr tennis... pethe' wedi gwella LOT ers hynny!!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sawl un, ond nai byth anghofio methu cofio enw merch fach yn fyw ar Uned 5, oedd ei gwyneb hi'n dorcalonnus ... a ro ni'n teimlo'n ofnadw!!! Sori Elliw!!!! X

Disgrifiad o’r llun,

"O na, mae criw Cymru Fyw wedi fy nal i!"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ar ôl rhoi stŵr i un o'r plant... wi'n hopeless!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wi'n frith o arferion drwg... ond un sy'n gwylltio pawb yw rhoi cd's nôl yn y casyn anghywir!!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Sori, allai'm dewis rhwng Rhufain a Paris.. cymaint i weld yn y ddwy!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti syrpreis yn 30 oed, y gŵr wedi trefnu ffrindie a theulu ddod i'r tŷ... lot o ganu rownd y piano!

Oes gen ti datŵ?

Dim tatŵ.

Disgrifiad o’r llun,

Buodd Heledd yn cyd-gyflwyno Côr Cymru yn ddiweddar

Beth yw dy hoff lyfr?

Wrth y modd a llyfrau ond hoff lyfr ar hyn o bryd ydy Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts.... ymson gan wahanol ferched ar wahanol adegau o'u bywydau, plis darllenwch hi os nad ydych wedi'n barod... GWYCH!!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

¶Ù¾±±ô±ô±ð»å²â²Ô....Âáî²Ô²õ!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Heb weld ffilm ers sbel ond ychydig yn ol wedi gorffen edrych ar gyfres Breaking Bad.. .un o'r pethe gore dwi wedi ei weld, ar bob lefel.

Dy hoff albwm?

Caru cerddoriaeth ond falle wedai 'Y Gath' gan Jess achos mae'n f'atgoffa i o gyfnod gwych gigs Cymrâg yn y gorllewin.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Prawn cocktail... thai curry... a unrhywbeth siocled.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio... well i'r enaid!!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hoff iawn o Wimbledon, felly dwle ni wbod beth fydde hi fel i ennill yn y cwrt canol... unrhyw un o'r chwaraewyr te!

Disgrifiad o’r llun,

Cwrt Canol Wimbledon, lle fyddai Heledd yn gobeithio bod yn bartner dwbl i Stefan Edberg

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Alwyn Humphreys