Gwrthod tai Penrhosgarnedd achos effaith ar y Gymraeg

Ffynhonnell y llun, MORBAINE

Disgrifiad o'r llun, Roedd cwmni Morbaine yn dadlau y byddai'r cynllun yn cael effaith 'bositif' ar yr iaith

Mae cynllun dadleuol i adeiladu 366 o dai ar gyrion Bangor wedi ei wrthod gan arolygydd cynllunio, yn rhannol oherwydd yr effaith y byddai'r datblygiad yn ei gael ar y Gymraeg.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i'r datblygwyr ar ddau achlysur ar sail ieithyddol, ond yn 2016 fe apeliodd cwmni Morbaine yn erbyn y penderfyniad.

Fe olygodd hynny bod Llywodraeth Cymru'n edrych ar y mater.

Mae'r arolygydd nawr wedi ochri â chynghorwyr Gwynedd, ac mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am faterion cynllunio, Lesley Griffiths, wedi derbyn yr argymhellion.

Dywedodd Morbaine nad oedden nhw am wneud sylw am y penderfyniad.

Pen y Ffridd

Roedd Morbaine eisiau codi cannoedd o dai ar dir ym Mhen y Ffridd ym Mhenrhosgarnedd.

Yn wreiddiol, fe wnaeth swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd argymell y dylai'r awdurdod lleol gymeradwyo'r cais.

Roedd y swyddogion yn dweud fod y tir wedi ei glustnodi ar gyfer codi tai fel rhan o'r cynllun unedol, yn nodi'r amod y dylai 30% o'r cartrefi fod yn fforddiadwy a bod Morbaine yn rhoi £1m tuag at ddatblygiad ysgolion lleol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r safle dan sylw rhwng Ffordd Caernarfon a Phenrhosgarnedd

Ond penderfynodd cynghorwyr Gwynedd i bleidleisio yn erbyn y cais yn 2015, ac yna yn 2016 yn dilyn apêl.

Yn ogystal â'r effaith ar y Gymraeg roedden nhw'n dadlau na fyddai'r isadeiledd yn gallu dygymod gyda chymaint o dai, ac roedd gwrthwynebiad yn lleol gyda deiseb wedi ei threfnu.

Effaith 'bositif'

Pan gafodd y cais ei wrthod, dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio Morbaine, Keith Nutter, y "byddai'r datblygiad yn cael effaith bositif ar yr iaith" a bod traean o'r datblygiad wedi ei glustnodi fel tai fforddiadwy.

Ym mis Mehefin 2017, dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn "ystyried" cymeradwyo adeiladu'r 366 o dai ond y byddai'n disgwyl i gael mwy o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Ddydd Mawrth, penderfynodd yr Arolygiaeth Gynllunio i gefnogi safbwynt Cyngor Gwynedd, ac mae Ms Griffiths wedi derbyn yr argymhelliad.

Hwn oedd y cais cynllunio gyda'r mwyaf o dai i Gyngor Gwynedd ystyried.