Â鶹ԼÅÄ

Apelio yn erbyn gwrthod cais am 366 o dai yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Byddai'r fynedfa i'r datblygiad arfaethedig wedi bod oddi ar Ffordd Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r fynedfa i'r datblygiad arfaethedig wedi bod oddi ar Ffordd Caernarfon

Mae datblygwyr wedi apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi caniatâd i adeiladu 366 o dai ym Mangor.

Roedd cynghorwyr yng Ngwynedd wedi oherwydd pryderon ynglŷn â'r effaith ar yr iaith Gymraeg.

Cafodd yr effaith ar draffig ac ysgolion lleol hefyd eu crybwyll fel ffactorau wrth wrthod caniatâd i'r datblygiad gan gwmni Morbaine ym Mhen y Ffridd, Penrhosgarnedd.

Mae disgwyl i'r arolygwyr cynllunio ystyried yr apêl cyn gwneud argymhelliad i Lywodraeth Cymru.

Hwn oedd y cais cynllunio gyda'r nifer fwyaf o dai i gael ei ystyried gan Gyngor Gwynedd, ond fe gafodd caniatâd ei wrthod ar sail rheolau newydd yn ymwneud â chynllunio a'r Gymraeg.

Roedd trigolion lleol hefyd wedi trefnu deiseb yn gwrthwynebu datblygu'r safle 35 acer ar sail eu pryderon ynghylch gorddatblygu a diffyg isadeiledd.