Â鶹ԼÅÄ

'Angen rhagor o drafod' ar Brexit rhwng Cymru a'r DU

  • Cyhoeddwyd
Cymru a'r UEFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud bod angen rhagor o drafodaethau er mwyn dod i gytundeb ar ddeddfwriaeth bwysig ynghylch Brexit.

Cyn y cyfarfod roedd gweinidogion San Steffan wedi dweud eu bod wedi ond dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford nad oedden nhw'n mynd "ddigon pell".

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns hefyd yn y cyfarfod, a mynnodd fod angen sicrhau'r "canlyniad iawn i fusnes" yn hytrach na "phlesio gwleidyddion bob pen i'r M4".

Ar ôl y cyfarfod dywedodd Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: "Fe wnaethon ni gymryd camau ymlaen, roedd pethau roedden ni'n gallu'u trafod. Ond aethon nhw ddim digon pell."

'Ildio cyfrifoldebau'

Pwrpas Mesur Ymadael yr UE yw trosglwyddo deddfau'r UE i ddeddfau'r DU er mwyn sicrhau nad oes bwlch cyfreithiol yn dilyn Brexit.

Byddai'r gwelliannau arfaethedig i'r mesur yn golygu bod pwerau'r UE yn trosglwyddo'n uniongyrchol o Frwsel i Gaerdydd, Belfast a Chaeredin yn y materion sydd wedi'u datganoli.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn cytuno gyda'r egwyddor, ond wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "fachu grym" wrth sôn am faterion sydd wedi eu datganoli.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn y trafodaethau

Mae newidiadau i'r mesur gafodd eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi cael eu gwrthod gan ASau, ond mae Llywodraeth y DU wedi addo ers misoedd i ddiwygio'r Mesur Ymadael.

"Dydyn nhw ddim yn cwrdd â'r holl ofynion 'dyn ni'n credu sydd eu hangen i berswadio Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi'r bil," meddai Mr Drakeford wedi'r cyfarfod.

"Ond fe wnawn ni gyfarfod eto a gobeithio gallu dod i gytundeb cyn i welliannau gael eu gwneud yn NhÅ·'r Arglwyddi."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alun Cairns roedd y cyfarfod yn un "adeiladol"

Dywedodd fod angen i'r Cynulliad fod yn sicr fod unrhyw achos o "ildio cyfrifoldebau... am gyfnod dros dro" gael ei wneud gyda'u cydsyniad nhw.

Ychwanegodd: "Roedd yn gyfle i mi bwysleisio unwaith eto beth yw blaenoriaethau Cymru a sicrhau fod anghenion swyddi ac economi Cymru ar frig y rhestr pan mae'n dod at... safbwynt Llywodraeth y DU."

Dylanwad

Dywedodd Mr Cairns fod y cyfarfod yn un "positif, adeiladol", ac mai sicrhau'r fargen orau i fusnesau oedd y flaenoriaeth.

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar sut 'dyn ni'n gwneud hynny wrth barchu'r setliad datganoli a hefyd cadw uniondeb marchnad gyffredin y DU," meddai.

Mynnodd Ysgrifennydd Cymru hefyd nad oedd llais Cymru yn nhrafodaethau cabinet Theresa May yn cael ei golli am nad oedd ef ei hun yn eistedd ar brif bwyllgor Brexit y llywodraeth.

"Yn y diwedd wrth gwrs bydd popeth yn mynd o flaen y cabinet cyfan i gael ei gymeradwyo," meddai.