Â鶹ԼÅÄ

Cynnig gwelliannau i fesur Brexit cyn cyfarfod pwyllgor

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae gwelliannau sydd wedi eu cynnig i Gymal 11 o Fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu cyflwyno i'r llywodraethau datganoledig cyn i'r Pwyllgor Gweinidogion ar y Cyd gyfarfod yn Llundain ddydd Iau.

Byddai'r gwelliannau yn golygu bod pwerau'r UE yn trosglwyddo'n uniongyrchol o Frwsel i Gaerdydd, Belfast a Chaeredin yn y materion sydd wedi'u datganoli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "annefnyddiol" i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r newidiadau arfaethedig cyn y cyfarfod.

Pwrpas Mesur Ymadael yr UE yw trosglwyddo deddfau'r UE i ddeddfau'r DU er mwyn sicrhau nad oes bwlch cyfreithiol yn dilyn Brexit.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn cytuno gyda'r egwyddor, ond wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "fachu grym" wrth sôn am faterion sydd wedi eu datganoli.

Mae newidiadau i'r mesur gafodd eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi cael eu gwrthod gan ASau, ond mae Llywodraeth y DU wedi addo ers misoedd i ddiwygio'r Mesur Ymadael.

Trafod 'adeiladol'

Dywedodd cadeirydd y cyfarfod, David Lidington AS, fod y cynigion newydd yn gam ymlaen, a'i fod yn gobeithio y byddai'r llywodraethau datganoledig yn trafod yn adeiladol.

Fe fydd y newidiadau'n golygu bod mwyafrif y pwerau yn mynd yn syth o Frwsel i'r llywodraethau datganoledig, ond hefyd yn sicrhau fod gan Lywodraeth y DU y gallu i warchod marchnad fewnol y DU, pan fod angen, mewn rhai meysydd.

Dywedodd Mr Lidington: "Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r llywodraethau datganoledig i ganfod ffordd ymlaen sydd yn parchu eu rôl ac yn sicrhau ein bod yn gallu gwarchod y farchnad fewnol i'r DU, sy'n hanfodol.

"Mae pawb yn cytuno bod angen fframwaith cyffredin mewn rhai meysydd - mae'n hanfodol felly nad ydym yn gwneud bywyd yn anoddach i fusnesau a theuluoedd ar draws y DU wrth i ni reoli'r broses o ddod â phwerau newydd yn ôl o'r UE.

"Rydym wedi dangos parodrwydd i wrando ac addasu er mwyn symud ymlaen, ac rydym yn annog eraill i wneud yr un modd fel y gallwn symud ymlaen."

Yn bresennol yn y cyfarfod bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS ynghyd â Mark Drakeford AC ar ran Llywodraeth Cymru.