Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwobr cyfraniad arbennig Y Selar i Heather Jones
Y gantores Heather Jones yw enillydd gwobr cyfraniad arbennig cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar eleni.
Mae hi wedi bod yn rhan amlwg o'r sîn ers y 1960au fel perfformiwr unigol ac mewn grwpiau.
Y llynedd, fe siaradodd yn gyhoeddus am ymosodiad rhyw honedig ddigwyddodd iddi yn yr 1970au, gan annog menywod eraill i sôn am eu profiadau.
Dywedodd Owain Schiavone o'r Selar ei bod wedi gwneud "cyfraniad eang yn gerddorol" a "rhoi lle i ferched ar lwyfannau Cymru".
Dechreuodd ei gyrfa mewn grŵp o'r enw'r Cyfeillion tra yn yr ysgol yng Nghaerdydd, cyn iddi gychwyn perfformio ar ei phen ei hun a rhyddhau EP unigol yn 1968 - union hanner canrif yn ôl.
Tua diwedd yr 1960au, roedd yn aelod o'r Bara Menyn ar y cyd â Meic Stevens a Geraint Jarman, ei chyn-bartner ac enillydd gwobr cyfraniad arbennig Y Selar yn 2017.
Enillodd Cân i Gymru yn 1972, ac mae wedi parhau i berfformio a rhyddhau recordiau yn y degawdau wedyn.
Dywedodd Mr Schiavone: "Y bwriad gyda'r wobr ydy talu teyrnged i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros amser sylweddol, a heb os mae Heather yn disgyn i'r categori hwnnw.
"Mae wedi gwneud cyfraniad eang yn gerddorol, ond hefyd o safbwynt rhoi lle i ferched ar lwyfannau Cymru, ac mewn diwydiant sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion."
Dywedodd Heather Jones ei bod yn "falch iawn" o'r wobr.
Bydd Gwobrau'r Selar yn cael eu cynnal yn Aberystwyth ar 17 Chwefror, ac mae'r bleidlais gyhoeddus i ddewis yr enillwyr bellach wedi cau.
Cyhoeddodd Y Selar mai 'Aros o Gwmpas' gan Omaloma, 'Dihoeni' gan Sŵnami, a 'Drwy Dy Lygaid Di' gan Yws Gwynedd sydd ar restr fer y categori 'Cân Orau', a bod Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Ynys Môn, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn cystadlu am y 'Digwyddiad Byw Gorau'.
Bydd rhestrau byr y categorïau eraill yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.