Heather Jones: 'Pwysig i siarad' am ymosodiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae cantores adnabyddus wedi bod yn sôn am ymosodiad rhyw mae'n dweud ddigwyddodd iddi yn yr 1970au gan bwysleisio pwysigrwydd siarad am ddigwyddiadau o'r fath.
Dywedodd Heather Jones ei bod wedi dioddef yr ymosodiad gan ddyn, tra roedd hi'n ei 20au cynnar ac yn briod â'r canwr Geraint Jarman.
Mae wedi bod yn sôn am ei phrofiadau gyda rhaglen Post Cyntaf Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, wrth i honiadau pellach yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein ddod i'r amlwg.
'Ddim yn gallu mynd allan'
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Heather Jones wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y byd cerddorol yng Nghymru.
"Oedd un person yn y busnes wedi ymosod yn rhywiol arna i, o'n i ddim yn disgwyl e," meddai.
"Roedd e'n ofnadwy, ro'n i'n meddwl bod e'n ffrind i fi ond oedd e'n disgwyl rhywbeth ganddo fi. O'n i'n briod!
"Ro ni'n rili, rili ypset ar y pryd ac o'n i ddim yn teimlo mod i'n gallu mynd allan ar ben fy hun neu gyda grŵp o ferched eto am flynyddoedd."
'Anghofio a chario 'mlaen'
Dywedodd ei bod am gyfnod hir yn teimlo mai ei bai hi oedd yr ymosodiad, a'i bod hi am geisio anghofio amdano.
Yn sgil y newyddion am Harvey Weinstein mae'n dweud bod rhai wedi gofyn iddi am ei phrofiadau hi yn ystod dyddiau cynnar ei gyrfa.
Mae Mr Weinstein yn wynebu nifer o honiadau o ymosodiadau rhyw yn erbyn menywod dros gyfnod o 30 mlynedd, ond mae Mr Weinstein yn gwadu'r honiadau.
"Mae pawb wedi bod yn gofyn i fi - oes rhywbeth fel 'na wedi digwydd i ti yn y 70au? Oes. Roedd yn rhaid i fi jyst anghofio amdano fe a chario 'mlaen, rhoi fy nghalon i mewn i'r gwaith."
Diwylliant o ddiffyg parch
Yn ystod y 70au, meddai, roedd diwylliant o ddiffyg parch tuag at fenywod a dynion yn ceisio cymryd mantais wrth iddi gerdded o amgylch Caerdydd a theithio i gigs a pherfformiadau.
"Roedd lot o bobl yn rhoi lifft yn ôl i fi achos do'n i ddim yn gallu gyrru ar y pryd, ac yn disgwyl cael cusan neu cwtch neu rywbeth yn y car. Ro'n i wedi priodi hefyd."
Ei hangerdd am gerddoriaeth oedd yn bwysig i Heather, ac ymgolli yn ei gwaith oedd yn gymorth iddi wedi'r ymosodiad.
"Ro'n ni'n gweithio gyda phobl hyfryd, cynhyrchwyr, pobl barchus... Ryan a Ronnie, Meic Stevens, Geraint Jarman, roedden nhw i gyd yn parchu fi.
"Gallai ddweud bod neb fel Harvey Weinstein yn y byd pop Cymraeg neu'r byd Cymraeg."
'Pwysig i siarad'
Mae Heather yn canmol y menywod sydd wedi codi pryderon am eu profiadau gyda Harvey Weinstein gan ddweud eu bod yn "ddewr".
Mae'n teimlo bod hi'n "bwysig i siarad".
"Os oedden ni wedi siarad i ferched eraill ar y pryd, gallwn ni fod wedi gwneud rhywbeth amdano fe," meddai.
"Dyna beth oedd o'i le yn y 70au, doedd neb yn siarad am bethau fel 'na - roedd popeth yn hushedup a dyw hwnna ddim yn reit."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017