Â鶹ԼÅÄ

Cwricwlwm: Arbenigwr yn rhybuddio am golli momentwm

  • Cyhoeddwyd
School in Newport
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno'n raddol i wahanol oedrannau rhwng 2022 a 2026

Mae pensaer y cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion Cymru wedi rhybuddio yn erbyn colli momentwm ar ôl i'r amserlen ar gyfer ei gyflwyno gael ei hymestyn.

Yr Athro Graham Donaldson yw awdur y cynllun ar gyfer trawsnewid y ffordd mae plant a phobol ifanc tair i 16 oed yn cael eu haddysg.

Yr wythnos ddiwetha', cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai'r cwricwlwm yn dechrau cael ei ddysgu mewn ysgolion , ac yn cael ei gyflwyno yn raddol.

Dywedodd yr Athro Donaldson ei fod yn "llwyr ddeall" y penderfyniad i oedi'r amserlen, wedi pryder bod angen mwy o amser i athrawon baratoi.

Fe fydd y cwricwlwm newydd yn cyflwyno chwe maes dysgu a phrofiad eang, a bydd rhaid cynnwys sgiliau digidol, yn ogystal â rhifedd a llythrennedd, ym mhob peth sy'n cael ei ddysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Graham Donaldson yn arbenigwr ac yn ymgynghorydd addysg

Cafodd yr amserlen newydd ei chyhoeddi wedi i undebau athrawon a gwleidyddion ddweud bod angen rhoi amser ychwanegol i ysgolion baratoi.

Dywedodd Ms Williams y byddai cyflwyno'r cwricwlwm yn raddol i wahanol oedrannau rhwng 2022 a 2026 yn well na'r cynllun gwreiddiol o'i ddysgu i bawb yn 2021.

'Defnyddio'r amser yn gynhyrchiol'

Cafodd y cwricwlwm ei lunio gan gyn-Brif Arolygydd Ysgolion Yr Alban, yr Athro Donaldson.

Mewn cyfweliad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru dywedodd bod "cynnydd yn parhau'n dda" wrth ddatblygu'r cwricwlwm.

"Y peth allweddol yw peidio colli momentwm, ac yn amlwg gyda threigl amser, y perygl yw bod pobol yn dechrau ymlacio ac rydyn ni'n colli'r math o egni y mae'n rhaid i ni gael yn y broses ddatblygu," meddai.

"Felly dydw i ddim yn siomedig ynglÅ·n ag ymestyn yr amserlen, ond rydw i'n benderfynol bod rhaid defnyddio'r amser ychwanegol yn gynhyrchiol ac nad ydyn ni'n cymryd mwy o amser i wneud beth fydden ni wedi gwneud beth bynnag."

Roedd gan yr Athro Donaldson rôl yn natblygiad cwricwlwm Yr Alban, sydd wedi wynebu problemau wrth ei weithredu.

Mae dirywiad ym mherfformiad Yr Alban yn y profion rhyngwladol PISA diweddaraf wedi arwain at gwestiynau ynglŷn â pha mor addas yw'r Alban fel model i Gymru.

'Cwricwlwm Cymreig'

Ond dywedodd yr Athro Donaldson nad yw'r Alban yn fodel i Gymru.

"Mae'n gwricwlwm Cymreig, mae'n ddiwygiad Cymreig, mae'n rhaglen Gymreig sydd yn dysgu o brofiad gwledydd eraill - ac un o'r rheini yw'r Alban," meddai.

Mae e hefyd yn croesawu'r ffordd y mae'r pleidiau gwleidyddion wedi trafod y diwygio.

"Yn nhermau gwleidyddiaeth y broses, does yna ddim gemau'n cael ei chwarae," meddai.