Targedau allyriadau carbon yn 'heriol dros ben' i Gymru

Disgrifiad o'r llun, Defnyddio ffermydd gwynt ar y tir pan fo hynny'n bosibl yw un o argymhellion y pwyllgor

Bydd cwrdd â thargedau allyriadau carbon yn fwy heriol i Gymru nag i weddill y DU, yn ôl ymgynghorwyr.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (PND) wedi gwneud cyfres o argymhellion am gwrdd â'r targedau allyriadau.

Mae'r argymhellion yn cynnwys tynhau safonau adeiladu tai a chynyddu'r defnydd o ffermydd gwynt ar y tir mawr.

Daeth croeso i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn dweud eu bod yn gweithio ar atebion tymor hir.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru darged - sydd ddim yn un statudol - i leihau nwyon tÅ· gwydr o 40% (o lefelau 1990) erbyn 2020. Er hynny mae'r PNH yn argymell gosod targed statudol o 27%.

'Ymdrech polisi barhaus'

Fe wnaeth allyriadau yng Nghymru ddisgyn o 19% rhwng 1990 a 2015 o gymharu â gostyngiad o 38% i'r DU gyfan.

Mae'r PNH, sy'n cynghori'r llywodraethau datganoledig, yn dweud fod torri allyriadau yng Nghymru yn fwy heriol oherwydd pwysigrwydd amaethyddiaeth a diwydiant trwm i economi Cymru.

Yn ôl y pwyllgor, bydd yn "heriol dros ben" ac yn gofyn am "ymdrech polisi barhaus" i gyrraedd y targedau, ond nad yw'r meysydd polisi i gyd wedi'u datganoli.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Arglwydd Deben fod y targedau newid hinsawdd yn synhwyrol

Dywedodd cadeirydd y PNH, yr Arglwydd Deben: "Mae Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, ond cyraeddadwy i ostwng allyriadau erbyn 2050 fel rhan o'r ymdrech fyd eang i daclo newid hinsawdd.

"Mae'r targedau carbon yr ydym yn argymell heddiw yn cynnig modd i Gymru ddad-garboneiddio'i heconomi tra'n gwarchod diwydiant, swyddi a chenhedloedd y dyfodol."

Ychwanegodd y dylai Cymru ddefnyddio'i grym dros dai i wneud cartrefi newydd yn fwy effeithlon.

"Gallai Cymru ddweud wrth bob adeiladwr, os ydych chi am adeiladu yma rhaid i chi gwrdd â'r safon uchaf," meddai.

Wrth sôn am leihau allyriadau o ddiwydiannau trwm fel dur, ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn awgrymu mewn unrhyw ffordd y dylen nhw gau, ond mae yn golygu eu bod yn ceisio bod mor effeithiol o safbwynt ynni ag sy'n bosibl."

Dywedodd nad yw'n esgus dweud "y bydd hi'n anodd", ac wrth i gynhyrchu trydan symud tuag at ffynonellau adnewyddadwy fe fyddai allyriadau yn disgyn.

Beth yw'r prif argymhellion?

  • Sicrhau bod adeiladau newydd a rhai presennol yn effeithlon iawn o safbwynt ynni;
  • Lleihau allyriadau o drafnidiaeth a chynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a seiclo, annog y defnydd o geir trydan drwy sefydlu rhwydwaith well o fannau pweru, yn enwedig yn y canolbarth;
  • Lleihau allyriadau o amaethyddiaeth ac ystyried cyfnewid y Polisi Amaeth Cyffredinol am un sy'n cefnogi gweithredu i leihau allyriadau;
  • Plannu mwy o goed ac anelu am o leiaf 4,000 hectar bob blwyddyn;
  • Darparu mwy o drydan o ffynonellau carbon-isel a defnyddio ffermydd gwynt ar y tir mawr pan maen nhw'n cwrdd â safonau cynllunio lleol.

Dywedodd Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths, ei bod yn croesawu'r argymhellion a bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithredu, gan gynnwys gosod targedau uchelgeisiol am ynni adnewyddadwy.

"Y flwyddyn nesaf byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar y camau y gallwn gymryd yn y tymor hir o leihau allyriadau yng Nghymru," meddai.

"Byddaf yn ystyried y cyngor, ynghyd â thystiolaeth ehangach ac yn cyhoeddi diweddariad pellach ar yr amser pwysig yma yn haf 2018."