Â鶹ԼÅÄ

Datganoli: Gwaddol 'cadarnhaol' ar yr amgylchedd

  • Cyhoeddwyd
Coeden wedi ei phlannu

O blannu coeden ar gyfer pob baban newydd-anedig yng Nghymru i sydd gyda'r gorau yn y byd.

Dim ond dwy enghraifft o'r dylanwad y mae datganoli wedi'i gael ar yr amgylchedd.

Gwaddol sy'n "gadarnhaol ar y cyfan" yn ôl cyfarwyddwr newydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar.

20 mlynedd ers y bleidlais i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol, mae'r rheini sy'n ymgyrchu dros ein moroedd, mynyddoedd a'n hawyr iach wedi ymuno a'r sawl sydd wrthi'n ystyried sgîl-effaith y penderfyniad yr wythnos hon.

Tra bod 'na bethau amlwg iawn wedi'u cyflawni, rhybuddio mae Ms Elgar bod angen "cymryd camau breision" i fynd i'r afael a newid hinsawdd yn enwedig.

Mae ansicrwydd hefyd yn dal i barhau ynglŷn â pha lywodraeth sy'n gyfrifol am rannau o bortffolio eang yr amgylchedd, gyda'r ffaith bod grym wedi'i rannu rhwng San Steffan a Bae Caerdydd ar faterion ynni yn creu "trafferthion a chymhlethdod".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i bobl dalu 5 ceiniog i brynu bagiau plastig yng Nghymru ers 2011

"Mae penderfyniadau a wnaethpwyd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf o ganlyniad i ddatganoli wedi bod yn bositif i'r amgylchedd ar y cyfan," meddai Ms Elgar wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

"Ry'n ni wedi gweld arloesi gyda chyflwyno'r tal am fagiau plastig, targedau ailgylchu statudol, dim cnydau GM a moratoriwm ar ffracio.

"Mae modd gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru, a hynny er lles pobol a'r blaned."

Hefyd o ddiddordeb...

Ym mis Hydref 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno tâl ar ddefnydd bagiau plastig, gydag archfarchnadoedd yn dweud iddyn nhw weld gostyngiad o 90% yn eu defnydd o fewn dim ond chwe mis.

Yn fwy diweddar, mae cyfradd ailgylchu trawiadol wedi bod yn destun canmol - ry'n ni bell ar y blaen o'i gymharu â gweddill y DU, ail yn Ewrop ac un adroddiad blaenllaw yn gosod y wlad yn y trydydd safle yn y byd.

Datblygiad arall sydd wedi denu sylw'r gymuned ryngwladol yw , sy'n gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i bwyso a mesur goblygiadau hirdymor eu penderfyniadau ar yr amgylchedd ac ystyriaethau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Haf Elgar mae'r sefyllfa yn gymysglyd o safbwynt pa bwerau sydd gan Gymru a pha rhai sydd gan Loegr fel yn y maes ynni

Mae datblygiad cynaliadwy - hoff ymadrodd amgylcheddwyr - wedi bod yn thema ganolog o waith Cynulliad Cymru ers y dechrau - a'r cysyniad wedi'i gynnwys yn y cyfansoddiad gwreiddiol ym 1999.

O ran rheoleiddio'r amgylchedd, mae gan - Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fe gymrodd le Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth - dau sefydliad sy'n dal i fodoli dros y ffin - yn ogystal â'r Cyngor Cefn Gwlad.

Y bwriad oedd uno'r gwaith o oruchwylio a gofalu am yr amgylchedd dan un faner - yr ymateb yn gymysg a dweud y lleiaf hyd yma.

Dyfodol adnewyddadwy?

"Mae'r sefydliadau datganoledig wedi gwella democratiaeth yng Nghymru gyda mwy o gyfleon i ddylanwadu polisi a phenderfyniadau yn cael eu gwneud yn fwy agos inni," eglurodd Ms Elgar.

"Ond nid yw'n fêl i gyd - mae angen cymryd camau breision i ddatgarboneiddio a gweithredu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

"Yn y cyfamser, mae'r sefyllfa gymysg o ba bwerau sydd wedi'u datganoli yn parhau i achosi trafferthion a chymhlethdodau, er enghraifft ym maes ynni gydag isadeiledd ynni a hyd yn oed effeithlonrwydd ynni."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae grwpiau amgylcheddol wedi beirniadu yn llym ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a newid hinsawdd.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwleidyddion ym Mae Caerdydd eisiau i forlyn ynni llanw Bae Abertawe ddigwydd

Rhybuddio mae arbenigwyr na fydd Cymru'n cyrraedd targed i leihau allyriadau carbon 40% erbyn 2020, tra bod yr Alban yn rhagori.

Dweud eu bod yn benderfynol o greu gwlad sy'n "enwog am ynni adnewyddadwy" mae Llywodraeth Cymru.

Ond gan fod yr hawl i ganiatáu prosiectau mawrion, grymoedd dros gymorthdaliadau a'r grid sy'n cludo trydan i'n cartrefi yn nwylo Llywodraeth Prydain, mae eu gallu i weithredu wedi'i gyfyngu.

Er bod gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi bod yn , er enghraifft, maen nhw wedi methu hyd yma i ddwyn perswâd ar eu cyfoedion yn San Steffan.

Ffermio

Un maes lle mae'n gliriach pwy sydd â'r grym yw amaeth.

Mae dylanwad llywodraethau ym Mae Caerdydd ar ffermio wedi bod yn destun trafod parhaus i'r sawl sy' ynghlwm a'r diwydiant.

Yn ôl Dylan Morgan, Pennaeth Polisi NFU Cymru, mae datganoli wedi dod a'r "bobl sy'n gwneud y penderfyniadau yn nes at ffermwyr Cymru."

"Ry'n ni wedi cael mwy o gyfle i drafod pethau gyda gweinidogion ac aelodau'r cynulliad - ry'ch chi'n eu gweld nhw o amgylch y lle ac yn amlwg mae Bae Caerdydd yn llawer nes i ni na San Steffan."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn y diwydiant amaeth yn teimlo nad yw'r llywodraeth wedi llunio strategaeth effeithiol er mwyn delio gyda TB

Ond fe ddywedodd bod y farn wedi'i hollti ymysg ffermwyr ynglÅ·n ag a yw datganoli'n beth da, gyda chwynion dros wahaniaethau polisi rhwng Cymru a San Steffan o gylch materion fel TB mewn gwartheg yn pryderu nifer.

"Mae'r effaith wedi bod yn gymysglyd a ry'n ni wedi cael ein siomi gan ambell i benderfyniad," meddai Mr Morgan.

"Ar nodyn cadarnhaol mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i hyrwyddo'n bwyd ni a'r brand Cymreig.

"Ond y'n ni heb weld strategaeth effeithiol i fynd i'r afael a TB ac mae newidiadau i'r taliadau ry'n ni'n eu derbyn nôl yn 2014 wedi gosod ffermwyr Cymru o dan anfantais o'i gymharu a gweddill y DU."

Y dyfodol?

Felly beth am y dyfodol?

Os yw Llywodraeth Prydain yn cadw'u haddewidion, fe allai Cynulliad Cymru gael hyd yn oed mwy o rymoedd dros yr amgylchedd a ffermio cyn hir wrth i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd gael eu trosglwyddo ar ôl Brexit.

"Fe fydden ni'n mynd o sefyllfa lle ry'n ni'n implementeiddio polisi sydd wedi'i lunio ym Mrwsel i greu ein cyfreithiau ein hunain yng Nghymru," ychwanegodd Mr Morgan - "cyfle mawr i'r Cynulliad".

Yn her sylweddol hefyd - mae gan yr Undeb Ewropeaidd fwy o gyfraith amgylcheddol na unman arall yn y byd.

Adeiladu, addasu, gwrthod neu weddnewid hwnnw yw'r bennod nesa - gwaith allai gymryd ugain mlynedd arall mae'n siŵr.